Jump to content

05 Mehefin 2020

Beth sydd mewn enw?

Beth sydd mewn enw?
Mae’n bendant i’r Coronafeirws ddominyddu sylw’r cyfryngau Prydeinig a Chymreig yn yr wythnosau diwethaf, felly rhag ofn i chi golli hynny, newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enw ar 6 Mai i Senedd Cymru/Welsh Parliament.


Pam newid yr enw?


Mae’r enw’n dangos y newidiadau a fu i bwerau’r sefydliad dros y 21 mlynedd ddiwethaf. Ar ôl refferendwm datganoli 1997, lle pleidleisiodd 50% o’r etholwyr dros Gynulliad Cenedlaethol datganoledig, daeth Llywodraeth Cymru 1998 i rym i ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999.


Pan ddechreuodd y Cynulliad nid oedd ganddo unrhyw bwerau i gychwyn deddfwriaeth sylfaenol tan 2006, pan sicrhawyd pwerau deddfu cyfyngedig drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd pwerau deddfu llawn mewn meysydd lle’r oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol awdurdodaeth pan gefnogodd 63% o etholwyr bleidlais Ie yn refferendwm datganoli 2011.


Wrth gwrs, ni ddigwyddodd y penderfyniad i enw’r Cynulliad dros nos. Deddf Cymru 2017, oedd yn ddeddf Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn datganoli pwerau pellach i Gymru, oedd yn rhoi’r pŵer i’r Cynulliad i newid enw’r sefydliad. Ar 9 Hydref 2019 cytunodd Aelodau’r Cynulliad mai’r enw newydd fyddai Senedd Cymru / Welsh Parliament. Yn olaf, cafodd enw’r ddeddfwrfa ei newid yn swyddogol gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Dyma’r Ddeddf oedd hefyd yn rhoi hawl i rai 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru.


Nid oedd pawb yn teimlo fod angen newid yr enw. Yn union fel y credai Juliet fod enw teulu Romeo yn ddiystyr - mae llawer yn teimlo’r un fath am Senedd Cymru. Mae pwerau’r sefydliad yn bodoli p’un ai a gaiff ei alw yn Gynulliad neu’n Senedd. Fodd bynnag mae’r newid enw yn awr yn adlewyrchu pwerau a rôl gweinyddiaeth Cymru yn gywir, a gallai helpu gyda chanfyddiadau’r cyhoedd o’r hyn a wnaiff y sefydliad deddfwriaethol.


Beth am y maes tai?


Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi 20 maes pwnc gwahanol y mae gan y Senedd gymhwysedd i ddeddfu ynddynt. Mae tai yn un o’r meysydd hyn, ynghyd â datblygu economaidd, addysg a hyfforddiant, yr amgylchedd, gwasanaethau tân ac achub a hyrwyddo diogelwch tân, iechyd a gwasanaethau iechyd, priffyrdd a thrafnidiaeth, a llesiant cymdeithasol.


Newidiodd Deddf Cymru 2017 y model datganoli yng Nghymru i fodel ‘cadw pwerau’, sy’n golygu y gallai’r Cynulliad ddeddfu ar unrhyw bwnc heblaw’r rhai a gadwyd yn benodol ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae tai yn parhau wedi ei ddatganoli i Gymru ac nid yw yn bwnc sydd wedi ei ‘gadw’ ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig.


Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn dweud, yn gyffredinol, y gall y Senedd ddeddfu ym mhob maes ar fater tai. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymroddedig i ddefnyddio ei phwerau i gynyddu’r cyflenwad a’r dewis o dai, gwella ansawdd tai a gwella gwasanaethau tai a chymorth.


Dros y blynyddoedd mae’r Senedd wedi deddfu i foderneiddio cyfraith tai yng Nghymru. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi system newydd o reoleiddio ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod yn y sector rhent preifat ac yn diwygio’r gyfraith ar ddigartefedd. Pan ddaw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym, bydd yn creu set symlach o reolau ar gyfer tenantiaethau preswyl. Bydd yn disodli’n llwyr y systemau tenantiaethau diogel a thenantiaethau sicr sy’n gweithredu ar hyn o bryd dan Ddeddf Tai 1985 a Deddf Tai 1988.


Beth nesaf?


Cafodd gwaith i newid arwyddion y Cynulliad ei ohirio, ynghyd â digwyddiad i nodi’r newid enw. Mae blaenoriaethau deddfu yn canolbwyntio ar hyn o bryd, ac iawn felly, ar lunio’r ymateb i’r cyfyngiadau symud oherwydd y coronafeirws.


Mae CHC wedi cynrycholi barn aelodau drwy wahanol brosesau i newid rheoliadau, yn cynnwys y rhai dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ran ein haelodau sy’n darparu gofal a chymorth.


Nid oes unrhyw amheuaeth y bydd bywyd ar ôl y cyfyngiadau symud yn datgelu teuluoedd mewn galar, gweithlu blinedig iawn, diweithdra, tlodi, diffyg cydraddoldeb, afiechyd, digartrefedd, dyled ac ofn ail don o’r feirws marwol. Er nad yr holl ateb, gwyddom fod adeiladu tai fforddiadwy newydd, ansawdd uchel yn ffordd wirioneddol effeithlon o ymateb i lawer o’r achosion anghydraddoldeb ac anghyfiawnder a ddangoswyd gan yr argyfwng hwn, a bydd hyn yn alwad canolog yn ein negeseuon i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.


Yr hyn a ddaeth yn amlwg drwy gydol y cyfnod hwn yw bod gan y cartref rôl ganolog ym mywydau pobl. Mae tai yn hawl sylfaenol i bawb ac mae’n hanfodol fod y cartrefi hynny yn lleoedd diogel, iach i fod ynddynt. Rydym eisiau diwedd ar ddigartrefedd, mynd i’r afael â newid hinsawdd, a darparu tai fforddiadwy, ansawdd da ar gyfer pawb sydd eu hangen. Mae’n rhaid i ni gymryd y cyfle hwn i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen a newid er gwell.


Efallai fod Senedd Cymru wedi newid ei henw, ond fel bob amser – yr hyn a wneir gyda’r sefydliad sy’n cyfrif.