Barn HBF ar Cynllunio ar gyfer 20,000 o Gartrefi...
Mark Harris, Cynghorydd Cynllunio a Pholisi Cymru HBF, yn blogio am y papur gwybodaeth a gyhoeddwyd ar y cyd 'Cynllunio ar gyfer 20,000 o Gartrefi':
Mae'r HBF yn falch i fod wedi gweithio'n agos gyda CHC a'r Ffederasiwn Meistr Adeiladwyr ar y papur hwn, gan fod yr HBF yn flaenorol wedi codi llawer o'r materion y cyfeirir atynt. Mae'r cyfyngiadau a amlygir yn y papur yn rhai sy'n wynebu pob darparydd tai yng Nghymru, p'un ai breifat neu gyhoeddus. Mae cynllunio yn aml yn broses hir a chymhleth ac mae'r adroddiad yn dynodi ffyrdd i wella'r system, fel y byddai'n ei gwneud yn haws i adeiladwyr tai gyflenwi'r 20,000 o gartrefi fforddiadwy y dynodwyd fod eu hangen, yn ogystal â'r rhai preifat y mae Cymru eu mawr angen. Mae HBF yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau cynllunio lleol i weithredu'r argymhellion a wnaed a chreu amgylchedd lle gall pob darparydd tai gynyddu allbwn a chyfateb cyflenwad tai yn well gyda'r galw.
Yn neilltuol, mae Argymhelliad 6 - Cyfnerthu'r System dan Arweiniad Cynllun yn trafod problem sy'n wynebu aelodau HBF ar hyn o bryd, sef ansicrwydd gydag 11 Cynllun Datblygu Lleol i'w hadolygu cyn 2021 pan ddeuant i ben. Nid yw'n eglur os daw'r rhain ymlaen yn unigol, neu fel adolygiadau ar y cyd gydag opsiwn pellach o Gynllun Datblygu Strategol. Y system dan arweiniad cynllun hwn sy'n galluogi pob Cyngor i ddynodi tir ar gyfer tai a rhoi'r sicrwydd sy'n galluogi adeiladwyr tai i wneud penderfyniadau ar fuddsoddiad hirdymor. Mae'r cynlluniau hyn hefyd yn gosod y polisïau sydd angen i ganran neilltuol o'r cartrefi newydd ar ddatblygiadau tai fod yn rhai fforddiadwy. Cyhoeddodd yr HBF ei bapur ei hun, HBF Housing Delivery and the Plan-Led System , yn ddiweddar sy'n edrych yn fanylach ar y mater hwn ac yn cynnig nifer o ddatrysiadau i Lywodraeth Cymru. Teimlwn fod 'Cynllunio ar gyfer 20,000 o Gartrefi' yn rhoi llwyfan ar gyfer codi'r materion hyn eto a chefnogi llais ein partneriaid cyflenwi yn CHC a FMB wrth gynnig datrysiadau adeiladol i nifer o feysydd eraill o gonsyrn a gaiff eu rhannu.