Jump to content

25 Ebrill 2023

Barn arbenigol: Mae cymdeithasau tai Cymru yn addasu i adeiladu cartrefi gweddus ar gyfer pawb – ond a fedrai pwysau gau’r drws ar gynnydd?

Barn arbenigol:  Mae cymdeithasau tai Cymru yn addasu i adeiladu cartrefi gweddus ar gyfer pawb – ond a fedrai pwysau gau’r drws ar gynnydd?

Yn ail ran ein cyfres blogiau ar ddatblygu mae Bethany Howells, swyddog polisi a materion allanol CHC, yn edrych sut mae cymdeithasau tai ar draws Cymru yn addasu eu cartrefi i ddiwallu anghenion gwahanol grwpiau o bobl, yn cynnwys teuluoedd aml-genhedlaeth.

Yma mae Bethany yn trafod y camau llwyddiannus y mae cymdeithasau tai yn eu cymryd, a’r pwysau o fewn y system a fedrai effeithio ar gyflawni’r nod hollbwysig yma.


Nid yw tai yn fater un-maint-i-bawb. Ni fydd yr hyn a all weithio i un person, cwpl neu deulu o reidrwydd yn addas i un arall, am lawer o wahanol resymau personol, diwylliannol ac iechyd.

Mae pobl yn treulio tua 90% o’u hamser dan do, ac yn bwysicaf oll, yn eu cartrefi. Mae effaith tai anaddas ar fywydau pobl yn hysbys iawn. Dangosodd pandemig Covid-19 pa mor hanfodol yw tai ansawdd da i bawb, ac ym maniffesto ymgyrch Cartref! 2021 fe wnaethom amlinellu’r llu o fanteision sydd gan gartref diogel, cynnes, fforddiadwy ac addas.

Ar y llaw arall, gal tai gorlawn fod yn niweidiol i berthynas aelodau teuluoedd â’i gilydd, effeithio ar addysg plant ac achosi pryder, straen ac iselder, fel y dangosir mewn ymchwil a gyhoeddwyd gan elusen ddigartrefedd Shelter. Gall tai gorlawn hefyd gael effaith negyddol ar iechyd pobl, gyda thai gwael yn costio tua £1.4bn y flwyddyn i’r GIG ar hyn o bryd.

Mae chwarter y plant sy’n byw mewn tai cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn byw mewn tai gorlawn, yn ôl cyfrifiad 2011. Gan ymchwilio ymhellach i’r data o’r cyfrifiad, dywedodd Gweithredoedd nid Geiriau a gefnogir gan Tai Pawb fod 27% o aelwydydd Bangladeshaidd, 19.4% o aelwydydd Du a 18.5% o aelwydydd Arabaidd yng Nghymru yn orlawn, o gymharu â 4.9% o aelwydydd Gwyn Prydeinig. Mae Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2022, yn awr yn cydnabod fod angen “llety diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau”.

Ymhellach, canfu y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol (NHF – y corff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai yn Lloegr) yn ddiweddar y caiff 313,244 o blant sy’n byw mewn cartrefi gorlawn eu gorfodi i rannu gwely gydag aelodau o’u teuluoedd, fel rhan o’r ymchwil ehangach sy’n dangos effaith niweidiol byw mewn cartrefi gorlawn.


Mynd i’r afael â gorlenwi

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu ffrydiau cyllid ychwanegol – tebyg i raglen cyllid 2021-22 ar gyfer cartrefi mwy ar rent cymdeithasol a’r rhaglen cyllid Cyfalaf Llety Trosiannol – a ddefnyddiwyd gan gymdeithasau tai i helpu creu capasiti tai y mae mawr angen amdano ac felly fynd i’r afael â’r broblem.

I sicrhau eu bod yn darparu’r cartrefi mwyaf addas ar gyfer pobl sydd angen tai cymdeithasol yn eu hardaloedd lleol, mae cymdeithasau tai yn gweithio’n galed i ddeall y cymunedau a wasanaethant, a sicrhau y gallant ddarparu datrysiadau tai ymarferol sy’n trin amgylchiadau unigol.

Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae Cymdeithas Tai Taf yn darparu opsiynau tai i ardaloedd gydag ystod amrywiol o gymunedau ac yn rhagweithiol wrth wella rhai o’r cartrefi y mae’n eu rhentu fel eu bod yn fwy addas ar gyfer anghenion tenantiaid. Er enghraifft, mae’r gwaith hwn wedi ei weld yn trosi wyth atig mewn cartrefi presennol (mewn partneriaeth gyda LoftPro) i greu ardaloedd byw ychwanegol a chyfleusterau sydd eu mawr angen, tebyg i ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd gwely, ar gyfer teuluoedd mawr ac aml-genhedlaeth.


Mae’r addasiadau hyn i gartrefi wedi bod o fudd sylweddol i’r gymuned. Yn ogystal â helpu i ostwng gorlenwi a digartrefedd, maent hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg tai fforddiadwy yn y ddinas.

Soniodd tenant a fanteisiodd yn ddiweddar o’r prosiect am yr effaith gadarnhaol a gafodd ar amodau byw y teulu: “Roedden ni’n cysgu yn llythrennol ar ben ein gilydd, ond nawr mae gan bawb eu gofod eu hunain, ac mae gan ein plant le i astudio a chwarae”.

Mae cymdeithasau tai eraill hefyd yn gweithio i ddeall anghenion eu tenantiaid yn well. Mae Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA) wedi gwneud gwaith sylweddol i wella ei dealltwriaeth o brofiadau tenantiaid lleiafrif ethnig a chyflawni ei nod strategol o fod yn landlord gofalgar. I’r gymdeithas, mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr fod y sefydliad yn gynhwysol, y gwrandewir ar brofiadau bywyd a bod tenantiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn ymwneud â gwneud penderfyniadau.


Uchelgeisiau’r dyfodol

Fodd bynnag, er bod tystiolaeth o arfer da o fewn y sector, mae angen gwneud mwy i oresgyn gorlenwi yng Nghymru.

Dywedodd Simon Lu, Rheolwr Gwrth Hiliaeth Tai Pawb wrth Cartrefi Cymunedol Cymru, “Mae gorlenwi yn fater sensitif iawn o fewn tai ar gyfer rhai o gymunedau ethnig amrywiol.

“Yn anffodus, dengys y data mai ychydig a newidiodd yn y cyswllt hwnnw ers i Gymru wneud ymrwymiad i fynd i’r afael â gorlenwi yng Nghynllun Gweithredu Tai BME Llywodraeth Cymru 2002.

“Er nad oes unrhyw atebion rhwydd yma, mae’n fwy hanfodol nag erioed ein bod yn gweithredu arno. Mae Tai Pawb yn edrych ymlaen at weithio gyda CHC, partneriaid eraill, aelodau a chymunedau i wneud gorlenwi yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.”

Mae CHC a’r sector cymdeithasau tai yn rhannu uchelgais Tai Pawb. Ynghyd â gwaith y Panel Adolygu Arbenigol yn edrych ar ddiwygio deddfwriaeth digartrefedd, ac mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym yn comisiynu ymchwil manwl gyda ffocws ar ddyraniadau (y broses o sut y caiff cymdeithasau tai eu haseinio i ddarpar denantiaid) i’n helpu i ddeall y rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth gael mynediad i opsiynau tai. Bydd rhan o’r gwaith hwn hefyd yn edrych ar or-lenwi a than-lenwi anheddau cymdeithasol.

Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ganfod datrysiadau i liniaru rhai o’r heriau sy’n wynebu cymdeithasau tai wrth geisio adeiladu’r cartrefi mae gan bobl Cymru gymaint o’u hangen. I gefnogi hyn, gofynnwn i Lywodraeth Cymru ystyried sut mae’r asesiadau o’r farchnad tai leol a Chynlluniau Datblygu Lleol yn gweithio i ddarparu’r cartrefi mae pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig yng Nghymru eu hangen.

Yn olaf, gwyddom y gall fforddiadwyedd fod yn sbardun mewn gorlenwi, felly fel y nodwyd yn ein hadroddiad Amser i Weithredu, rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i adolygu dulliau llesiant sy’n cyfyngu incwm aelwydydd, yn cynnwys y cap ar fudd-daliadau.

Mae mwy o wybodaeth am waith Cartrefi Cymunedol Cymru ar gael yma a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion a sylwadau diweddaraf gan gymdeithasau tai.