Jump to content

18 Gorffennaf 2017

Atal eich anghrediniaeth...

Llun o'r logo Gorweilion Tai

Beth? Atal eich anghrediniaeth? Ie, dyna'r hyn sydd eisiau.


Cam nesaf y prosiect Gorwelion Tai yw ychydig o sesiynau lle rydym eisiau i chi ddod â'ch angerdd a'ch consyrn am y sector tai cymdeithasol at y bwrdd, ond gadael popeth a wyddoch am sut ydych yn ei ddarparu wrth y drws.


Os dysgodd y 12 mis diwethaf unrhyw beth i ni, y wers honno yw nad yw'r status quo yn ddiogel. Mae newid yn digwydd ac mae angen i ni fod yn ddigon cyflym, ac yn bwysicach, yn ddigon meddwl-agored, i'w goleddu. Dyma'r unig ffordd y bydd y sector yn addas i'r diben wrth i ni edrych ymlaen ar hyd y daith i 2036.


Hanfod Gorwelion Tai yw helpu'r sector i fod ar flaen y gad gyda'r newidiadau sy'n dod a chynllunio gweledigaeth hirdymor i fedru darparu'r gwasanaethau y bydd tenantiaid eu hangen bryd hynny, nid yr hyn maent ei angen heddiw. Dros y 12 mis diwethaf mae CHC wedi gwahodd sylwadau a barn o bob rhan o'r sector, rhanddeiliaid a llywodraeth, ac mae wedi comisiynu adroddiad data sylweddol yn edrych ar y rhifau fydd yn effeithio ar y sector dros yr 20 mlynedd nesaf, Yn awr, yn ystod y cam nesaf, mae CHC wedi comisiynu Høpp i gynnal cyfres o sioeau teithio i'ch cael i chi gyd i feddwl yn fawr - meddwl am sut y gallwn addasu a newid i aros yn berthnasol.


Drwy'r sioeau rhyngweithiol hyn, byddwn yn ymchwilio ymhellach sut olwg fydd ar y weledigaeth hirdymor ar gyfer cymdeithasau tai. Byddwn yn gwthio'r sawl sy'n cymryd rhan i edrych i'r dyfodol, yn seiliedig ar yr hyn a wyddom yn awr a lle credwn y daw'r galw am wasanaethau, er mwyn sefydlu fframwaith lle gallwn gyda'n gilydd barhau i ddylanwadu ac arwain at draws y sector. Rydym eisiau darparu datrysiadau perthnasol a chadarn ar gyfer y dyfodol (orau byd y gallwn), er y tirlun gwleidyddol a chymeithasol sy'n ffrwtian yn anrhefnus.


Dyma'r cyfle i randdeiliaid helpu diffinio lle bydd y sector a pha wasanaethau y bydd yn eu cynnig yn 2036, ac i fireinio'r ffordd y caiff ei ddirnad. Cymerwch ran!


Mae mwy o wybodeath am Gorwelion Tai a'r daith hyd yma ar wefan CHC:


http://chcymru.org.uk/en/housing-horizons/phase-two-establishing-the-challenge/
Mike Phillips
Rheolydd Gyfarwyddydd, Høpp