Jump to content

11 Rhagfyr 2018

Arweinydd newydd ar gyfer Llafur Cymru

Arweinydd newydd ar gyfer Llafur Cymru
Mae Aaron Hill, Rheolwr Materion Cyhoeddus, yn adlewyrchu ar flwyddyn brysur i wleidyddiaeth Cymru, sydd wedi arwain at arweinydd newydd i Blaid Lafur Cymru.


Gor-gynildeb fuasai disgrifio’r flwyddyn ddiwethaf yng ngwleidyddiaeth Cymru fel un gynhyrfus. Cafwyd deuddeg mis, mwy neu lai, oedd yn drasig, cythryblus ac anrhagweladwy, ond dichon fod rhyw drefn wedi ei hadfer yr wythnos diwethaf pan etholwyd y ceffyl blaen, Mark Drakeford AC, yn arweinydd newydd Llafur Cymru ac yn ôl pob tebyg yn Brif Weinidog.


Roedd maint y fuddugoliaeth yn sicr yn fwy cyfyng nag oedd rhai wedi proffwydo, ond fe arweiniodd y pedwerydd, a’r hiraf, o’r etholiadau arweinyddiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2018 at y canlyniad oedd efallai yr un hawddaf ei ddarogan. Er clod iddyn nhw, fe gynhaliodd Eluned Morgan a Vaughan Gething fel ei gilydd ymgyrchoedd ardderchog, y tu hwnt i ddisgwyliadau llawer o bobl. Dangosodd Eluned Morgan ei bod yn mwy na haeddu ei lle ar y papur pleidleisio, gan ychwanegu syniadau ac ymdeimlad o frys at ornest oedd yn edrych ar y dechrau fel petai’n llusgo. A does bosib na sicrhaodd Vaughan Gethin ei le mewn swydd bwysig yn y Cabinet am gyfnod hir. Y cwestiwn nawr yw a fydd canlyniad mor rhagweladwy yn golygu rhagor o’r un peth gan Lafur Cymru mewn Llywodraeth?


Wrth ystyried gwaddol y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, ysgrifennodd yr Athro Laura McAllister dros y Sul fod Cymru wedi bod yn “galw allan am arweinydd sydd nid yn unig yn arwain ond yn dangos eu bod nhw’n malio”. Yn sicr mae Drakeford wedi ceisio cyflwyno elfen o hynny i’w ymgyrch, gyda dadleuon digon bywiog yn yr hystingau trwy gydol yr etholiad. Ond bydd yn ddiddorol gweld sut y gall dyn a gyfaddefodd yn onest nad oedd ganddo “awydd angerddol i fod yn Brif Weinidog” gyfleu ei frwdfrydedd yn y brif swydd.


Tra’i fod wedi bod yn ffigur canolog mewn llywodraeth am bron y cyfan o deyrnasiad Llafur Cymru wrth y llyw, yn sicr fe welwyd rhai arwyddion cynnil o newid cyfeiriad. Er i’w gefnogaeth i Jeremy Corbyn olygu y byddai’r Prif Weinidog newydd bob amser yn cael ei weld yn ymgeisydd y chwith yn yr ornest hon, glynodd yn ddiedifar wrth frand “Sosialaeth 21ain Ganrif” ei ymgyrch gan adleisio slogan Corbyn, “I’r llawer, nid yr ychydig”. Roedd y maniffesto - y mwyaf helaeth o ddigon o blith rhai'r tri ymgeisydd - yn gyfuniad o’r syniadau y mae Drakeford wedi eu cefnogi mewn llywodraeth - gan gynnwys Treth Tir Gwag - a syniadau fel penodi Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Tai a fyddai’n nodi newid cyfeiriad oddi wrth gyfnod Carwyn Jones fel Prif Weinidog.


O safbwynt tai, mae yna arwyddion calonogol o’r naill ben i’r llall o’i faniffesto. Tra byddai penodi Ysgrifennydd Cabinet yn ddyrchafiad symbolaidd i flaenoriaeth tai o fewn y Llywodraeth, gall y sector gymryd cysur o sylwedd y polisi hefyd. Mae yna synau cadarnhaol ar led ynghylch perthynas nes rhwng tai a chynllunio, a rhai o’r syniadau a gododd allan o’r Adolygiad Tai Fforddiadwy sy’n dal i fynd yn ei flaen, gan gynnwys creu ‘Asiantaeth Tai’ canolog.


Mae bron yn sicr mai llywodraeth Mark Drakeford fydd hi o hyn ymlaen, gydag Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Tai, a fydd yn ystyried argymhellion yr Adolygiad Tai Fforddiadwy. Roedd yn galonogol clywed y Prif Weinidog nesaf yn adleisio’n gweledigaeth Gorwelion Tai ar gyfer Cymru, lle bydd cartrefi da yn hawl sylfaenol i bawb. Fodd bynnag, bydd tai yn wynebu cystadleuaeth ffyrnig i gyrraedd brig y rhestr blaenoriaethau wrth iddo ffurfio’i Lywodraeth newydd.


Wrth i gynllwynion Brexit nesu at ddydd y farn yn San Steffan, go brin y gall y dyn a arweiniodd lawer o waith Llywodraeth Cymru ar y mater ddisgwyl llawer o orffwys. Bydd hefyd yn wynebu penderfyniad ar ffordd liniaru’r M4 a fu’n bwrw cysgod dros Lywodraeth Cymru yn hirach nag y gall neb ohonom ei gofio. Mae’r darpar Brif Weinidog wedi defnyddio’r penwythnos ers ei ethol yn sòn am yr angen i feddwl yn y tymor hir, ond dichon mai’r penderfyniadau tymor byr, yn y meysydd hyn yn benodol, a fydd yn diffinio sut olwg fyd ar Sosialaeth 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.