Cyrraedd y targed o 20,000 cartref erbyn diwedd 2026, meddai Ysgrifennydd y Cabinet
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, bod Llywodraeth Cymru drwy weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai “ar y trywydd i gyflenwi dros 18,500 o gartrefi carbon isel ychwanegol ar rent yn y sector cymdeithasol erbyn diwedd tymor hwn y Senedd”, gan gyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd 2026.
Yn ei haraith yn ein Cynhadledd Flynyddol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai hyn “fyddai’r cyflenwi cyson uchaf o dai cymdeithasol yng Nghymru mewn bron dau ddegawd”.
Ond sut y bydd yr etholiadau i Senedd Cymru a’r newid posibl yn y tirlun gwleidyddol yng Nghymru yn effeithio ar gyflenwi tai cymdeithasol yn yr hirdymor?
Wrth agor y gynhadledd dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr CHC “am y tro cyntaf mewn degawdau, mae cwestiwn gwirioneddol am bwy fydd yn arwain y Llywodraeth Cymru nesaf”.
Ar adeg tyngedfennol ar gyfer Cymru a’r sector fe wnaeth Stuart annog pleidiau gwleidyddol i “osod tai wrth galon dyfodol Cymru” a rhoi ffocws ar adeiladu mwy o gartrefi, cartrefi gwell a lleoedd iachach a thecach.
Tanlinellodd mai’r hyn mae Cymru ei angen yw cynllun “dewr y gellir ei gyflawni” i roi diwedd ar argyfwng tai y genedl.
“Ein cynnig yw y dylai’r Llywodraeth Cymru nesaf osod map trywydd i gyflenwi 60,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol dros y deng mlynedd nesaf, fel y bydd 20% o’r holl gartrefi yng Nghymru yn fforddiadwy,” ychwanegodd.
Arwain drwy newid
Ar gyfer cyflawni’r uchelgais hwn ar adeg o newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylweddol, mae’r sector tai angen arweinwyr a all lywio newid yn effeithiol.
Ymunodd Pipp Gwynn o Insight HRC â’r Gynhadledd Flynyddol i ymchwilio sut y gall byd sy’n newid greu’r gofod i fod yn ystwyth a rhoi cynnig ar ddulliau newydd o arweinyddiaeth. Fe wnaeth ein annog i edrych ar arweinyddiaeth drwy lygad pedair nodwedd allweddol: bod â hunan-ymwybyddiaeth, bod yn berthnasol, bod â gweledigaeth a bod yn gydnerth.
Soniodd Beacon Cymru a Vanguard Wales am bwysigrwydd meddwl systemau ac ymchwilio sut mae’n rhoi dull arweinyddiaeth grymus i lywio cymhlethdodau unrhyw newid sefydliadol mawr.
Gyda ffocws ar agweddau ymarferol, edrychodd Louise Price o Hugh James ar sut i reoli newid sefydliadol mewn modd effeithiol tra’n parhau i gydymffurfio gyda’r newid mewn cyfraith cyflogaeth, rheoli risg tra’n cadw tegwch, tryloywder ac ymddiriedaeth ac adeiladu dull rhagweithiol a chyfreithiol gadarn o reoli pobl.
Technoleg, camwybodaeth ac ymddiriedaeth
Roedd technoleg yn un arall o’r themâu allweddol yng nghynhadledd eleni.
Rhoddodd Jon Cocker, Prif Swyddog Gwybodaeth Platform Housing Group, ffocws i’r sgwrs barhaus am ddeallusrwydd artiffisial drwy wahodd y gynulleidfa yn y gynhadledd i ystyried y defnyddiau ymarferol ar gyfer cymdeithasau tai yn awr ac yn y tymor canol, o sgyrsfotiau a gaiff eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial i ddadansoddeg rhagfynegol ar gyfer cymorth gyda gwaith trwsio a thenantiaethau. Soniodd hefyd am yr angen am fframwaith foesegol sy’n ein galluogi i ymchwilio yn ddiogel sut olwg a fedrai fod ar ddyfodol tai deallus, sy’n canolbwyntio ar bobl.
Daw defnydd hollbresennol technoleg a chyfryngau cymdeithasol â her camwybodaeth, sy’n erydu ymddiriedaeth ac yn effeithio ar y ffordd mae cymdeithasau tai yn rhyngweithio gyda’u tenantiaid.
Rhannodd Catherine Evans, Pennaeth Cyfathrebu Trivallis, ddull y sefydliad i ddelio yn sensitif gyda chamwybodaeth ac ymunodd â phanel sy’n ymchwilio sut i feithrin ymddiriedaeth real a chynaliadwy.
“Er bod cyfathrebu da, onestrwydd a thryloywder yn bwysig, mae’n rhaid i wasanaeth cwsmeriaid fod yn iawn neu rydym yn dinistrio ymddiriedaeth”, meddai Catherine.
Ychwanegodd Leah Morantz, sy’n arwain cyfathrebu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mai hanfod ymddiriedaeth yw cyflawni disgwyliadau, p’un ai yw hynny’n ddigidol neu wyneb yn wyneb.
Hefyd yn siarad am dechnoleg a chamwybodaeth, gadawodd Carl Muller, cyd-sefydlydd Canolfan Dadansoddi Cyfryngau Cymdeithasol (CASM) Demos, ni gyda neges gadarnhaol a gwahoddiad: “Mae’n bosibl diogelu ein hunain a dod yn fwy gwydn wrth wrthsefylll rhyfel gwybodaeth.
“Mae rhyfel gwybodaeth yn targedu rhannu a gwarth ... yr arf yn erbyn hynny yw creu amgylchedd sy’n ceisio consensws yn lle”, meddai Carl, gan ddweud bod cyfleoedd enfawr i gymdeithasau tai o amgylch democratiaeth ddigidol. “Mae llawer o bobl yn adeiladu’r holl ffyrdd grymus newydd hyn i sefydliadau wrando a chasglu consensws”.
Effaith tai
Ac wrth siarad am wrando ar bobl, ymunodd David Wilton, Prif Swyddog Gweithredol TPAS Cymru, â ni i rannu pryderon, blaenoriaethau a phrofiadau byd go iawn tenantiaid ar draws Cymru heddiw.
Effeithiau byd go iawn yr argyfwng tai ar bobl a chymunedau hefyd oedd ffocws sgwrs dreiddgar rhwng Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol CHC, Clarissa Corbisiero, a’r newyddiadurwraig Vicky Spratt. “Mae’n chwythu fy meddwl y gellid gadael rhywbeth mor ddifrifol ag os oedd gan rywun rywle i aros ynddo y noson honno tan y diwrnod ei hun. Ni allwn fod yn y sefyllfa hon yn un o’r economïau mwyaf cyfoethog y byd”, meddai Vicky.
Ychwanegodd: “Mae gwleidyddion yn dweud o hyd fod angen i ni gael pobl allan o lety dros dro – felly, ewch ati, i’w cael nhw allan.”
Atgoffodd y newidiadurwraig y cynrychiolwyr yn rymus am effaith gadarnhaol tai da a adleisiodd drwy weddill y gynhadledd: “Mae unrhyw beth yn bosibl os oes gan rywun gartref diogel a sicr”.