Jump to content

18 Gorffennaf 2013

Angen dull ataliol newydd i gynnal gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig

Dyma'r neges gan Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru heddiw wrth iddynt gynnal Cynhadledd ar Iechyd a Thai yng Nghaerdydd.

Bydd Nick Bennett, Prif Weithredydd y Grŵp yn dweud wrth gynrychiolwyr: "Mae cyllidebau refeniw Cymru'n gostwng, ond mae'r galw am iechyd a gofal yn cynyddu. Credwn y byddai'n wrthgynhyrchiol diogelu'r gyllideb iechyd ond peidio buddsoddi mewn tai ac y bydd yn gwrthio'r costau i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol."

Mae'r Grŵp yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dull ataliol newydd at iechyd, i ostwng yr effaith ar y GIG er mwyn cynnal gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig gyda thai â rôl allweddol.

Derbyniodd Cymdeithasau Tai Cymru lythyr gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar yn sôn am y toriad yn y gyllideb refeniw a'r effaith ar Cefnogi Pobl. Gofynnodd y llythyr iddynt ystyried yn ofalus iawn gomisiynu gwasanaethau newydd, yn neilltuol yn yr ardaloedd hynny sy'n rhagweld cynnydd mewn cyllid.'

Ychwanegodd Nick: "Byddai'n gamgymeriad diogelu iechyd yn llwyr a thorri'r gyllideb Cefnogi Pobl. Dangosodd ymchwil fod pob punt a werir ar Cefnogi Pobl yn arbed arian drwy ohirio neu atal ymyriad mwy costus yn ddiweddarach, gan arbed hyd at £2 am bob £1 a werir.

"Mae ein sector eisoes yn helpu pobl hŷn a bregus i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol a byddai torri cyllidebau refeniw sydd mewn gwirionedd yn arbed arian i'r gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig yn cael effaith andwyol ar y rhai sydd fwyaf ei angen. Gall gwasanaethau gynnwys addasiadau syml fel canllawiau a rampiau, prosiectau rhyddhau o'r ysbyty, tai gwarchod, gofal ychwanegol neu becynnau cyfun cefnogaeth a llety ar gyfer pobl hŷn, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, oedolion gydag anableddau dysgu neu bobl sy'n byw gyda dementia."

Cytunodd Chris Jones, Prif Weithredydd Care & Repair Cymru: "Rydym yn credu y dylai gwasanaethau tebyg i rai Gofal a Thrwsio sy'n helpu pobl hŷn i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi gael eu diogelu. Mae ein gwasanaethau yn gostwng damweiniau, codymau a salwch cronig i bobl hŷn, a chyfrannu at ostwng gofal heb ei drefnu, llai o dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Argyfwng a chyflymu rhyddhau o ysbytai. Mae helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain hefyd yn golygu fod llai angen lleoedd mewn cartrefi gofal preswyl. Mae hyn i gyd yn gostwng y galw ac yn arbed arian i GIG Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol".

Bydd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddydd Conffederasiwn GIG Cymru, hefyd yn annerch cynrychiolwyr. Ychwanegodd: "Mae'r cynnydd mewn galw ac adnoddau cyfyngedig yn golygu ei bod yn hanfodol ad-drefnu gwasanaethau os yw GIG Cymru i barhau'n gynaliadwy a pharhau i ddarparu gofal diogel, effeithlon a thrugarog.

"Mae rhoi cefnogaeth dda i fwy o bobl yn eu cartrefi eu hunain yn rhan bwysig o newid gwasanaeth. Gallai iechyd a thai'n cydweithio mewn ffyrdd newydd a blaengar olygu gwelliant yn iechyd a lles nifer fawr o bobl yng Nghymru yn ogystal â rhoi gwerth am arian o gynlluniau ar y cyd."

Mae Canllawiau Arfer Da Cartrefi Iach, Bywydau Iach yn enghreifftiau o’r gwaith a wneir ar draws y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru sy’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy arloesi, gwaith partneriaeth a chydweithio traws-sector. Lansir y canllawiau arfer da yn y Gynhadledd Iechyd a Thai heddiw.

Mae gwybodaeth am weithgareddau'r Wythnos Iechyd a Thai, ar gael yn @CHCymru, @CRCymru @CymorthCymru a @WelshConfed ar Twitter neu ddefnyddio #hhw13.