Jump to content

18 Mai 2020

Amser i ailddyfeisio’n ddigidol

Amser i ailddyfeisio’n ddigidol
Gyda phandemig Covid-19 yn gweld cymdeithasau tai yn addasu er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cymunedau a’r tenantiaid a gefnogant mae Scott Tandy, Swyddog Adfywio Cymunedol Cymdeithas Tai Newydd, yn esbonio pam eu bod yn awr yn ailddyfeisio eu hunain yn digidol.


“Tan yn ddiweddar, roedd gan gymdeithasau tai foethusrwydd amser gyda chynhwysiant digidol, heb gael eu gorfodi i addasu neu meddwl yn wahanol am y ffordd maent yn ymgysylltu gyda thenantiaid. Bu bob amser ddull traddodiadol o gyfathrebu ar gael wrth ddarparu gwasanaethau, hyfforddiant a chefnogaeth. Gyda lledaenu COVID-19, mae wedi golygu y cafodd sefydliadau eu gorfodi i addasu ac ailddyfeisio eu hunain yn gyflym iawn er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau yn yr hyn sy’n awr yn fyd gwahanol iawn.


Fel Swyddog Adfywio Cymunedol ar gyfer Cymdeithas Tai Newydd, yn arwain ar Gynhwysiant Digidol, cefais y pleser o groesawu llawer o denantiaid a’r gymuned ehangach i fy sesiynau cefnogaeth ddigidol, sesiynau galw heibio digidol a chyrsiau hyfforddiant i gael mynediad i offer digidol, dysgu sgiliau digidol newydd neu ddatblygu hen rai.


Er fy mod yn siŵr y bydd fy sesiynau cefnogaeth ddigidol, sesiynau galw heibio digidol a chyrsiau yn parhau i redeg mewn rhyw ffurf pan fydd y pandemig yma drosodd, bu’n rhaid i mi addasu i helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd deall y byd digidol ar hyn o bryd.


Roeddwn yn arfer darparu sesiynau un i un yng nghartrefi tenantiaid, nawr rwy’n cefnogi tenantiaid dros y ffôn, drwy neges destun neu apiau galw fideo tebyg i WhatsApp, Facebook Messenger a Facetime. Gwelais fod defnyddio’r apiau hyn y mae tenantiaid eisoes yn hyderus yn eu defnyddio yn golygu amgylchedd dysgu gwell ac felly wers fwy llwyddiannus.


Yn fwyaf diweddar rydym wedi ehangu ein prosiect ‘Loan IT’ yn gyflym i gynnig hyd yn oed fwy o ddyfeisiau llechen, gliniaduron a data rhyngrwyd i denantiaid a ddynodwyd gan ein Swyddogion Tai a Chynhwysiant Ariannol. Cafodd y dyfeisiau hyn eu llwytho ymlaen llaw gyda gwefannau defnyddiol wedi’u cadw ar y sgrin gartref, ac yn dibynnu ar anghenion y tenant, caiff ffeil o adnoddau print hefyd ei chynnwys i alluogi’r tenant i ddysgu sgiliau hanfodol iddynt eu hunain.


Yn yr un modd, rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) a fu’n garedig yn darparu llu o gyfrifiaduron a gyfrannwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i’w rhoi i’n tenantiaid. Bu adborth gan denantiaid a ddefnyddiodd y prosiect ‘Loan IT’ ac a dderbyniodd offer a roddwyd drwy brosiect ‘Donate IT’ yn gadarnhaol iawn. Os ydych chi’n sefydliad sy’n dymuno trefnu rhywbeth tebyg, rwy’n fwy na hapus i rannu’r gwaith papur yr wyf wedi ei llunio i’ch cefnogi chi a’ch sefydliad.


Gan edrych i’r dyfodol, rwy’n gobeithio mai dim ond crafu wyneb yr hyn y gallwn ei gynnig yw’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni yn Newydd a sut y gallwn roi’r gefnogaeth orau i’n denantiaid drwy’r cyfnod anodd hwn. Rwy’n anfodlon aros a chadw’r gefnogaeth ddigidol fu gennym ond yn hytrach yn dymuno cydweithio gyda sefydliadau i ddarparu gwasanaeth cymorth digidol newydd a gwell, beth bynnag yw hynny.”


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi