Jump to content

12 Ebrill 2019

Amser ffarwelio

Amser ffarwelio
Felly hwn fydd y Crynhoad olaf gen i gan fy mod yn symud ymlaen i borfa newydd. Fy swydd gyda Cartrefi Cymunedol oedd y gyntaf i mi yn y sector ac yn ystod fy nghyfnod yma dysgais lawer iawn am faterion ymhell tu hwnt i ddeddfwriaeth tai.


Mae'n sector sy'n cwmpasu cymaint a buom yn ffodus i weithio gyda thîm ymroddedig, deallus ac egnïol ar faterion fel Credyd Cynhwysol a Brexit, yn ogystal â chefnogi gwaith yn ymwneud â'r Adolygiad Tai. Dywedwyd gynifer o weithiau o'r blaen, ond mae'r sector tai yn gymaint mwy na dim ond brics a morter, mae'n fwy am adeiladu cartrefi neu reoli cartrefi ar gyfer tenantiaid. Tai yw'r sylfaen ar gyfer sicrhau fod gan bobl yng Nghymru le i fyw, cymuned lle gallant feithrin perthnasoedd a chartref lle gallant dyfu lan neu dyfu'n hen, yn ddiogel, iach ac yn fforddiadwy. Mae tai yn feincnod am gydraddoldeb a heb i bawb gael lle i'w alw'n gartref, ni allaf weld sut y gall fod yn bosibl i Gymru fod yn wlad lle mae pawb yn cael yr un cyfleoedd.


Yn union fel mae tŷ yn fwy na lle i fyw ynddo, mae'r sector ei hun yn eang tu hwnt, gan y gwyddoch mae'n siŵr gan eich bod yn darllen hyn - nid yw pob gweithiwr proffesiynol tai yn adeiladwr neu'n swyddog tai! Rwy'n symud o faterion cyhoeddus i gyngor, ac mae miliwn ac un o swyddi y tu allan i'r rhain. Mae swyddi efallai nad oeddech hyd yn oed wedi sylweddoli eu bod yn bodoli mewn tai, er enghraifft, gwaith cymorth iechyd meddwl, dylunio a marchnata neu gynnal a chadw. Mae'r sector yn agor ystod enfawr o gyfleoedd, rhai mewn meysydd efallai nad ydych wedi eu hystyried o'r blaen. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru a Charity Job Finder newydd lansio Swyddi Tai Cymru, y safle cyntaf ar gyfer swyddi tai cymdeithasol yng Nghymru felly mae'n amser da edrych ar bopeth sydd gan y sector i'w gynnig.


Efallai fy mod yn gadael CHC ond rwy'n aros i weithio yn y sector tai ac mae'n sector sydd wirioneddol wedi cael gafael arnaf.


Ac felly, diolch am ddarllen fy safbwynt ar fyd tai, gwleidyddion a materion cyfoes. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae pethau'n symud o'r fan hyn, yn arbennig gyda chanlyniad yr adolygiad tai fforddiadwy fydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau unrhyw ddiwrnod nawr.


Ychydig flynyddoedd yn ôl dechreuodd Phillipa Knowles, ein Cyfarwyddydd Adnoddau Dynol, draddodiad o godi embaras ar staff sy'n gadael drwy ysgrifennu cerdd bwrpasol i goffau eu hymadawiad, efallai ei fod yn gweithio i rwystro pobl rhag mynd! Nid wyf wedi clywed fy un i eto, ond roeddwn awydd ymuno yn y traddodiad, drwy ysgrifennu cerdd. Ymddiheuriadau am yr odli (a'r diffyg odli!) gwachul!


Roedd Cartrefi Cymunedol Cymru
yn ddigon caredig i fy nghyflogi
i gadw llygad ar y newyddion
(hyd yn oed pan oedd hynny'n codi'r felan)
ond gyda Brexit rwy'n dal heb glem.


Mae swyddfa CHC yn Ocean Way,
yn llawer rhy agos i gangen Subway.
Mae'r tîm yn rhagorol
Doeth, cyfeillgar a diddorol.
Er mai dim ond ugain sydd
fe gytunwch eu bod yn gwneud llwyth:
Ymgyrchoedd a digwyddiadau,
Hyfforddiant a chynadleddau.


Rwy'n drist bod yn mynd
ond gobeithiaf fel y dengys hyn
y bydd fy atgofion o CHC bob amser yn hapus.