Aelod o Banel Tenantiaid Link yn ail yng Ngwobrau TPAS!
Bûm yng Ngwobrau TPAS ddiweddar oedd yn anrhydedd enfawr a hefyd yn sioc lwyr. Wyddwn i ddim am beth oedd y gwobrau neu beth fyddai'r noson yn ei golygu nes y cefais alwad ffôn gan Shelly (Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Linc). Esboniodd i mi, ar ôl trafodaeth gyda'i thîm, eu bod yn mynd i fy enwebu ar gyfer Gwobr Tenant y Flwyddyn. Roedd yn sioc a dweud y lleiaf. Roeddwn hefyd ychydig yn nerfus ac yn edrych ymlaen ar yr un pryd. Dychrynais yn sydyn ... peidiwch â dweud wrthyf os gwelwch yn dda bod yn rhaid i mi wneud araith! Unwaith y cefais sicrwydd na fyddai'n rhaid i mi wneud hynny, roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr.
Esboniodd Shelly eu bod yn fy enwebu am fy ngwaith o fewn y gymuned oedd yn cynnwys trefnu parti stryd ar gyfer pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed, trip i'r Barri a fy nghyfraniad at y Panel Tenantiaid. I fod yn onest, nid oeddwn erioed wedi meddwl fod yr hyn rwy'n ei wneud yn haeddu gwobr. Y cyfan rydw eisiau ydi creu ysbryd o fod gyda'n gilydd o fewn fy nghymuned a'i gwneud yn lle gwych i fyw.
Roedd y gwobrau eu hunain yn wych a chefais gyfle i gwrdd â chymaint o bobl hyfryd gyda straeon rhyfeddol. Roeddwn wrth fy modd gyda'r ffordd y cafodd y byrddau eu gosod gan ei fod yn golygu ein bod yn gallu siarad gyda phobl a chwrdd â ffrindiau newydd yn hytrach nag eistedd mewn rhesi. Roedd yn brofiad gwych.
Roeddwn wrth fy modd bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr ac yna i ganfod fy mod yn ail. Waw! Am sioc. Cymerodd eiliad neu ddwy i'r geiriau suddo mewn ac i mi sylweddoli mai fi oedden nhw wedi'i enwi! Roedd yn anrhydedd gwirioneddol ac roedd stori'r enillydd yn ysbrydoliaeth - roeddent yn llwyr haeddu'r wobr gyntaf. Dyna'r peth gwych, ein bod yn cael cyfle i rannu ein profiadau ac anrhydeddu pobl am yr hyn maent wedi'i gyflawni. Mae'n rhaid i mi gyfaddef ei bod yn wych cael cydnabyddiaeth ond byddaf yn dal ati i weithio gyda fy nghymuned, nid oherwydd mod i eisiau cydnabyddiaeth ond oherwydd mod i eisiau gwneud y gorau a allaf ar gyfer y bobl sy'n byw yn y gymuned gyda fi. Serch hynny, byddaf bob amser yn meddwl am ddod yn ail yng ngwobr Tenant y Flwyddyn gyda llawer iawn o falchder a gwen enfawr!