Jump to content

09 Rhagfyr 2019

Adroddiad newydd yn dangos effaith toriadau cyllid ar wasanaethau cymorth yng Nghymru

Rydym wedi cydweithio gyda Cymorth Cymru a Cymorth i Ferched Cymru i lansio adroddiad 'Materion Tai' heddiw.

Dywed yr adroddiad y bu gostyngiad o £37 miliwn* mewn gwasanaethau cymorth tai rhwng 2012 a 2018 ac mae'n dangos yr effaith a gafodd hyn ar awdurdodau lleol, y trydydd sector a landlordiaid cymdeithasol.

Mae'r gostyngiad sylweddol mewn cyllid yn golygu fod gwasanaethau hanfodol i atal digartrefedd a gwasanaethau tai wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol.

Gyda wythnos i fynd cyn bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei drafft gyllideb ar gyfer 2020/21 ar ddydd Llun 16 Rhagfyr, rydym yn galw am gynyddu cyllid ar gyfer y Grant Cymorth tai sy'n darparu gwasanaethau atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai yng Nghymru.Mae'r Grant Cymorth Tai yn dyrannu cyllid Llywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi pobl i fyw'n annibynnol. Bob blwyddyn mae'n ariannu gwasanaethau sy'n helpu mwy na 60,000 o bobl i osgoi digartrefedd, cael dihangfa rhag cam-driniaeth, byw yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau.

Gydag addewidion gwariant pleidiau gwleidyddol y Deyrnas Unedig yn yr etholiad cyffredinol yn debygol o arwain at gynyddu'r pot cyllid ar gyfer Cymru, mae nawr alwadau cryf i beth o hyn gael ei gyfeirio at wasanaethau sy'n rhaff fywyd i filoedd o bobl Cymru.

Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddydd Cymorth Cymru:

"Bu ein haelodau yn gweithio'n galed tu hwnt dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i wneud arbedion a pharhau i ddarparu gwasanaethau cymorth ansawdd uchel ar draws Cymru. Fodd bynnag, ofnwn ein bod wedi cyrraedd y pwynt tyngedfennol ac mae buddsoddiad ychwanegol yn hanfodol i sicrhau fod pobl sy'n ddigartref neu mewn risg o ddod yn ddigartref yn cael y cymorth maent ei angen. Mae hefyd angen ehangu'r model 'Tai yn Gyntaf' a gaiff ei ganmol yn rhyngwladol, ond mae angen buddsoddiad ychwanegol i wneud hyn yn realaeth."

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn darparu dros hanner y llety â chymorth sydd ei angen i helpu pobl allan o ddigartrefedd. Y llynedd, fe wnaeth y Grant Cymorth Tai ein galluogi i gyflwyno gwasanaethau hanfodol ar draws Cymru i gefnogi pobl i reoli eu tenantiaethau ac atal digartrefedd. Yn ogystal â'r gwasanaethau hyn, rydym yn gweithio i sicrhau nad oes neb yn ddod yn ddigartref fel canlyniad i adael tai cymdeithasol.

"I gefnogi ein gwaith, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn Grant Cymorth Tai, fel y gallwn barhau i gyflwyno'r gwasanaethau o'r main a'r ansawdd sydd eu hangen i ddod â digartrefedd i ben."

Dywedodd Eleri Butler, Prif Weithredydd Cymorth i Ferched Cymru:

"Mae'r grant hwn yn rhoi cyllid hanfodol i'n haelodau i ddarparu cymorth a all achub bywyd a newid bywyd y rhai sy'n goroesi cam-drin domestig a rhywiol. Ond rydym yn awr yn gweld cynnydd sylweddol yn y nifer a gaiff eu hatgyfeirio at gymorth arbenigol mewn llawer o ardaloedd, heb gynnydd cyfatebol mewn cyllid. Felly nid yw'n ddim syndod fod ein data cenedlaethol yn dangos y caiff goroeswyr cam-driniaeth eu cadw ar restri aros neu bod nifer cynyddol yn cael eu troi ymaith o lochesi pan maent angen help, oherwydd diffyg adnoddau a chapasiti.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu sicrwydd cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cenedlaethol yn ei Strategaeth Genedlaethol 2016, nid ydym eto wedi gweld gwireddu hyn. Mae cam-drin domestig ar ben ei hun yn costio £66 biliwn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau yn Lloegr a Chymru, felly nid yw'n afresymol i ni fuddsoddi cyfran ddigonol o hyn i achub bywydau, i feithrin capasiti gwasanaethau arbenigol a sicrhau ymrwymiad cenedlaethol na chaiff neb ei wrthod rhag cymorth arbenigol yng Nghymru pan maent fwyaf ei angen."