Adroddiad newydd yn dangos effaith ddifrifol barhaus Credyd Cynhwysol ar hawlwyr
Heddiw cyhoeddwn ymchwil yn dangos effaith ddifrifol Credyd Cynhwysol ar denantiaid cymdeithasau tai.
Dengys ein data fod gan 84% o’r tenantiaid cymdeithasau tai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ddyled rhent o £556 ar gyfartaledd. Mae’r lefel yma o ddyled wedi cynyddu dros y 12 mis diwethaf er gwaethaf gwelliannau i’r system Credyd Cynhwysol.
Mae’r ffigur fwy na dwbl yr hyn oedd yn ddyledus gan denantiaid yn derbyn Budd-dal Tai drwy’r hen system.
Prif achos dyled yw’r cyfnod presennol o bum wythnos o aros am daliadau Credyd Cynhwysol. Gyda thymor yr ŵyl ar ein gwarthaf, mae hyn yn golygu na fydd pobl sy’n hawlio ar ôl yr wythnos hon yn derbyn eu taliad tan ar ôl 25 Rhagfyr.
Gyda phwysau ychwanegol y Nadolig, rydym yn bryderus y bydd hyn yn achosi caledi sylweddol i lawer o bobl sy’n wynebu diffyg incwm y mis hwn.
Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn dweud y bu cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn y chwe mis diwethaf ymysg pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu y gallai miloedd o deuluoedd fod yn wynebu Nadolig heb y pethau mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol – twrci, mins peis ac anrhegion.
I lenwi’r bwlch incwm mae llawer o hawlwyr yn dewis gwneud cais am flaendaliad Credyd Cynhwysol, sy’n gweithredu fel benthyciad a gaiff wedyn ei dynnu o daliadau yn y dyfodol. I lawer o bobl, fodd bynnag, gall hyn olygu colli hyd at 30% o’u taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.
Galwn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ostwng yn sylweddol y cyfnod aros o bum wythnos i nifer o ddyddiau er mwyn osgoi lefelau dyledion y gellid eu hosgoi.
Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Materion Allanol CHC:
“Er rhai gwelliannau i’r system Credyd Cynhwysol, mae’r cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd a’r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent yn dangos ei fod yn dal i achosi caledi diangen ar gyfer pobl.
“Mae’r polisi hefyd yn cael effaith ar adnoddau a gwasanaethau yn y sector tai cymdeithasol. Mae staff sy’n gweithio i gymdeithasau tai Cymru yn treulio dwy i chwech awr y dydd yn cefnogi tenantiaid gyda materion yn gysylltiedig â Chredyd Cynhwysol, yn dangos nad yw’r polisi yn addas i’r diben hyd yma.
“Gyda phleidiau gwleidyddol nawr yn ymgyrchu ar gyfer Etholiad Cyffredinol y mis nesaf, dylai llesiant fod yn flaenoriaeth ar gyfer maniffestos.
“Rydym yn awr yn galw ar Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig i gydnabod yr effaith a gafodd Credyd Cynhwysol drwy ddod â’r cyfnod aros o bump wythnos i ben a sicrhau taliad cyntaf o fewn dyddiau yn hytrach na misoedd.”
Darllenwch yr adroddiad yma.