Adroddiad chwarterol ar y cynllun corfforaethol - Ebrill i Mehefin 2016
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi cyhoeddi'r adroddiad cynnydd chwarterol ar gynllun corfforaethol 2016-19. Fel rhan o'n hymrwymiad i aelodau, byddwn yn rhoi adroddiad chwarterol ar lwyddiannau a cherrig milltir allweddol a gyflawnwyd ar ein blaenoriaethau yn y cynllun corfforaethol.
Cipolwg ar Ebrill-Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd targed tai o 20,000 ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y Cytuniad Cyflenwad Tai
 - Cwblhau gwaith sylfaenol ar benderfyniad posibl i ailddosbarthu - cyngor cyfreithiol, sesiynau gwybodaeth a chyfarfodydd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a Llywodraeth Cymru.
 - Penodi Cyfarwyddydd Polisi newydd.
 - Sefydlu dau grŵp llywio Iechyd a Thai i gwmpasu cynllun gwaith fel rhan o Femorandwm Dealltwriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
 - Ymateb sector i adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar dai â chymorth, yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau.
 - Lansio adroddiad ar Opsiynau Tai ar gyfer pobl dan 35 oed, a gomisiynwyd ar y cyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
 - Lansio pecyn aelodaeth fasnachol newydd.
 - Cadarnhau CHC fel canolfan hyfforddiant Agored Cymru.
 
Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.