Jump to content

05 Tachwedd 2020

Adolygiad ffilm – PUSH

Adolygiad ffilm – PUSH
Mae PUSH yn ffilm ddogfen gan y cyfarwyddwr gwobrwyol Fredrik Gertten, sy’n ymchwilio pam ei bod yn dod gynyddol anodd i bobl fyw mewn dinasoedd. Byddwn yn dangos PUSH fel rhan o raglen Cynhadledd Flynyddol 2020, a dilynir hynny gan sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r cyfarwyddwr. Mae Bryony Haynes yn adolygu’r ffilm cyn iddi gael ei dangos:


"Dylid gweld tai fel hawl dynol ac nid fel nwydd.’ Dyna neges Leilani Farha, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dai, wrth iddi fynd ar daith o amgylch y byd i glywed y straeon dynol tu ôl i’r argyfwng tai byd-eang.


Mae ffocws y ffilm ar achosion yr argyfwng tai fforddiadwy a hefyd sut mae’n mynd mewn gwirionedd yn llawer dyfnach na naratif newid cymeriad ardaloedd wrth i bobl leol gael eu gwthio mas – diolch i’r elite ariannol (yn hytrach na’r bobl ryddfrydol hynny sy’n mynychu caffis crand a siopau dillad rhad). Yn neilltuol, mae’n bwrw goleuni ar rôl enfawr cwmnïau ecwiti preifat a chronfeydd pensiwn, sy’n fater sylfaenol sy’n eithaf aml ar goll o’r sgyrsiau hyn.


Yn Sweden, gwlad a gaiff ei chanmol yn aml am ei modelau cymdeithasol blaengar, mae Leilani yn clywed am y problemau sy’n deillio o ddyfodiad buddsoddwyr preifat. Y brif broblem yw’r datgysylltiad mawr rhwng y bobl sy’n byw yn y cartrefi hyn a’r bobl sy’n berchen arnynt.


Yn nes adref yn Llundain, mae Leilani yn clywed gan breswylwyr Grenfell naw mis ar ôl y tân trychinebus. Cawn ein hatgoffa am y bwlch anghydraddoldeb amlwg yn ogystal â’r newidiadau i’r gymuned yn y blynyddoedd cyn y digwyddiad. Gydag Ymchwiliad Grenfell yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, mae’r ffilm yn ailadrodd canlyniadau sylfaenol beth sy’n digwydd pan fo tai yn gweithredu fel asedau yn hytrach nag fel cartrefi.


Yn gywilyddus ond nid yn annisgwyl yw’r diffyg difrifol mewn diddordeb a gaiff Leilani pan mae’n cyflwyno ei hadroddiad i’r Cenhedloedd Unedig, gydag un cynrychiolydd yn cael ei weld yn edrych ar ei ffôn yn chwilio am oriorau drudfawr. Mae hyn yn ein atgoffa’n llwm am yr angen cyson i ymgysylltu gyda llywodraethau a’u dal i gyfrif.


Er nad yn benodol am Gymru, mae’r ffilm yn sicr yn codi ysbryd y rhai sy’n gweithio yn y sector tai a’r hyn rydym yn ymladd amdano – yr hawl dynol i gartref digonol."


Archebwch eich tocyn ar gyfer Cynhadledd Flynyddol 2020 yma.