Jump to content

03 Gorffennaf 2018

Adnabod y wyneb? Linda, cyn seren Eastenders, yn siarad yn ein Cynhadledd Cyllid

Adnabod y wyneb? Linda, cyn seren Eastenders, yn siarad yn ein Cynhadledd Cyllid
Wrth iddi baratoi i siarad yn ein Cynhadledd Cyllid yr wythnos yma, siaradwn gyda Linda Davidson ar ei thaith ryfeddol o seren EastEnders i arbenigedd ar y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ddigidol.


Mae Linda'n gweithio ar hyn o bryd gyda Jamie Oliver fel pennaeth digidol a daw i'r gynhadledd ddydd Iau 5 Gorffennaf i drafod sut y gall cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg newid disgwyliadau cwsmeriaid a sut y gallai hynny amlygu ei hun ar gyfer cymdeithasau tai.


Ond os ydych chi'n meddwl eich bod yn adnabod ei hwyneb ac yn methu cofio pam, mae'n debyg eich bod yn arfer edrych ar EastEnders pan ddechreuodd ddarlledu fwy na 30 mlynedd yn ôl - oherwydd bod Linda'n chwarae rhan y cymeriad eiconig Mary, y pync anystywallt.


Felly sut mae mynd o fod yn seren cyfres sebon i fod yn arbenigydd ar y cyfryngau cymdeithasol?


Esboniodd Linda: "Fe wnes symud i Lundain pan oeddwn yn 16 ar ôl cael fy magu mewn gofal ac roeddwn eisiau ailgreu fy hunan. Roeddwn eisiau bod yn actor felly fe es i ysgol ddrama ac wedyn cael clyweliad ar gyfer swydd EastEnders yn 1985. Doedd dim siarad am sebon, roedd yn cael ei galw'n ddrama ddwywaith yr wythnos, ac mae'n amlwg nad oedd gen i unrhyw syniad y byddai mor fawr neu boblogaidd ag oedd.


"Roedd yn hollol hurt. Mae'n bendant yn well gen i beidio cael fy adnabod ond roedd hynny'n eithaf rhwydd oherwydd fod Mary'n gwisgo llawer o golur. Roedd yn amser rhyfeddol. Roeddwn i'n ennill arian, fe wnes brynu fflat fy hunan yn Llundain ac rwy'n wirioneddol falch o fy nghyfnod yno. Rydw i wrth fy modd yn siarad amdano; fe roddodd gyfle i mi fod yn annibynnol."


Gadawodd Linda ar ôl tair blynedd hapus i gymryd un o'r prif rannau mewn drama gan Stephen Berkoff ac yna rannau eraill ar y teledu a theatr y West End. Rhwng swyddi, roedd Linda yn ysgrifennu i Tomorrow's World a phan soniodd rhywun am wefan wrthi, doedd ganddi ddim syniad at beth oedden nhw'n cyfeirio.


"Roedd hynny yn y dyddiau cyn BBC Online a wyddwn i fawr ddim am y rhyngrwyd ond fe wnes ymgolli'n llwyr ynddo mewn dim o dro. Dywedais wrth fy asiant fy mod yn rhoi'r gorau i actio a rwy'n credu ei fod yn meddwl fy mod yn wirion. 21 mlynedd wedyn ac es i byth yn ôl."


Fe wnaeth Linda helpu i ddatblygu safleoedd ar-lein cyntaf y BBC cyn helpu i lansio E4 ac wedyn, ar ôl cyfnod yn gofalu am ei fab Finnan, cafodd gynnig swydd dan Discovery.


Dywedodd, "Roeddwn i'n gallu deall sut y gallai technoleg alluogi teledu ac oherwydd mod i wedi bod ar y teledu yn ogystal â'r ochr ddigidol, medrwn siarad y ddwy iaith. Fe wnes deithio i bob rhan o'r byd a chefais fy nyrchafu i fod yn gyfarwyddydd Technoleg Gwybodaeth, ac yna roeddwn i'n eistedd ar awyren, fy mab yn chwech oed a meddwl 'Dwi ddim eisiau gwneud hyn mwyach', felly es i weithio ar fy liwt fy hun ac wrth fy modd gyda'r hyblygrwydd. Yna cefais swydd yn llanw dros gyfnod mamolaeth yn Jamie Oliver a chefais gynnig swydd lawn-amser yn y diwedd.


"Mae'n lle gwych i weithio ynddo a rydw i yno i helpu adeiladu mwy ar y brand digidol. Mae ganddo ymrwymiad gwirioneddol i drechu gordewdra mewn plant ac mae ganddo lawer o ffocws ar gael plant i fwyta'n well.


"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at y gynhadledd, lle byddaf yn siarad am sut mae cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn newid disgwyliadau cwsmeriaid a sut y gall hynny amlygu ei hunan mewn tai. Rydw i'n wirioneddol edrych ymlaen at gwrdd â phobl."


Ac ydi o bwys ganddi os yw pobl yn ei holi am Eastenders?


"Dim o gwbl", meddai gan chwerthin. "Rydw i wrth fy modd yn siarad amdano."


Bydd llu o siaradwyr eraill yn ymuno â Linda ar gyfer y Gynhadledd Cyllid yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod yng Ngwesty'r Metropole ar 5/6 Gorffennaf yn cynnwys Sean Holley o raglen Scrum V ar waith tîm a Ruth Murray Webster ar sut i ddynodi'r tueddiadau a'r materion sy'n dod i'r amlwg a gafodd sylw yn adroddiad Gorwelion Tai.


I archebu lle cliciwch yma.