Jump to content

04 Gorffennaf 2016

Adfywio brand Cartrefi Cymunedol Cymru

Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod yn lansio ein logo ar ei newydd wedd heddiw (dydd Llun 4 Gorffennaf). Yn dilyn diddymu strwythur Grŵp CHC ddydd Gwener 1 Gorffennaf, yn ogystal â defnyddio dull newydd o weithio dros y flwyddyn ddiwethaf gyda'n cynnig newydd i aelodau a chynllun corfforaethol newydd, credem mai dyma'r amser cywir i adfywio a moderneiddio ein brand.

Bu ein logo presennol gennym am dros ddeng mlynedd. Mae'r logo wedi hen ennill ei blwyf a chaiff ei adnabod ar draws Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, felly credem ei bod yn bwysig cadw rhai o elfennau'r hen logo. Dyna pam i ni fynd am 'adfywio' yn hytrach nag 'ail-frandio'. Darllenwch flog ein Dylunydd Graffeg fan hyn i gael mwy o wybodeath.

Mae llawer ohonoch yn defnyddio ein logo ar eich gwefannau, cyhoeddiadau ac yn y blaen - rydym wedi atodi ein logo newydd fel y gallwch ddiweddaru eich deunyddiau. Mae ein canllawiau brand ar gael yma.

Gadewch i ni wybod beth yw eich barn. Byddem wrth ein bodd yn cael eich adborth!