Jump to content

15 Awst 2017

Adeiladu ymaith o'r safle yng Nghanolbarth Cymru

Adeiladu ymaith o'r safle yng Nghanolbarth Cymru
Gyda chylch cyntaf Rhaglen Arloesi Tai Llywodraeth Cymru yn awr ar agor, mae'n amser gwych i ymchwilio opsiynau pellach y gall cymdeithasau tai Cymru eu hystyried wrth feddwl sut i adeiladu cartrefi ychydig yn wahanol.


O'r herwydd, manteisiais ar y cyfle i ymweld â ffatri FI Modular yn y Drenewydd, cwmni gyda bron ddegawd o brofiad o wneud yn union hynny.


Aeth Dai Griffiths, Rheolwr Cydymffurfiaeth F1 Modular (saif yr enw am Fabric First, sy'n dangos faint o ddifrif mae'r cwmni'n cymryd ansawdd y deunydd a ddefnyddiant) â fi ar daith o amgylch y ffatri. Mae Dai'n dweud fod y daith yn ofynnol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cynnal busnes gyda nhw, gan mai dyma'r ffordd orau i ddeall llif gwaith F1 Modular a hanfodion y busnes.


Mae'r ffatri yn anferth, yn 75,000 troedfedd ac yn cyflogi 48 o weithwyr aml-sgil ar draws ei llawr enfawr. Cafodd ei rhannu, yn fras, yn dair rhan gydag un adran ar gyfer dosbarthu unedau pren, un ar gyfer modiwlau 'hybrid' pren/dur a thrydedd ardal ar gyfer ffabrigeiddio dur. Yn wahanol i ffatrïoedd eraill, mae F1 Modular yn datblygu cynnyrch modwlar cyfan. Mae llinell gynhyrchu yn gwneud pob uned o'r ffrâm i gragen i gartref wedi'i ffitio'n llawn.


Lle'n bosibl, rhoddir blaenoriaeth i gadwyn gyflenwi leol (er enghraifft mae'r cwmni'n ffafrio ceginau a wneir gan Howdens, sy'n defnyddio deunyddiau Cymraeg), er y caiff y pren a ddefnyddir ar gyfer fframiau adeiladu ei fewnforio gan na all F1 Modular ganfod pren lleol o ansawdd digon uchel i gyflawni ei safonau uchel.


Mae partneriaeth ddiweddar gyda Ashley House plc, datblygydd cymdeithasol wedi hen ennill ei blwyf gyda hanes o weithio yn y sector cymdeithasol, yn galluogi F1 Modular i gyflwyno gwasanaeth llawn, yn cynnwys gwaith daear a rheoli prosiect, ac mae ei dîm mewnol yn cynnwys arbenigwyr CAD.


Mae F1 Modular ac Ashley House eisoes yn gwneud llawer o fusnes gyda landlordiaid cymdeithasol ar draws Prydain, yn cynhyrchu cartrefi ar gyfer cymdeithasau tai yr Alban sy'n cyrraedd Safon Cynaliadwyedd Aur Llywodraeth yr Alban, er enghraifft (mae'r cynnyrch yn dra effeithiol o ran gwres a chynaliadwyedd). Y tai sy'n cael eu creu ar y diwrnod yr ymwelais yw archeb gan Gyngor Cherwell ac mae'r cwmni'n cynnal trafodaethau gyda thair cymdeithas tai o Gymru i ychwanegu at y datblygiadau sydd yn yr arfaeth.


Nid oes llyfr patrwm - mae F1 Modular yn gweithio i fanylebion cleientiaid ac maent yn hollol hyblyg, "cyhyd nad ydyn nhw eisiau tai crwn!", meddai Dai. Ar ôl dweud hynny, mae'r cwmni'n gweithio ar hyn o bryd ar 'Dŷ Hyblyg', a gynlluniwyd i ddarparu datrysiad tai gydol oes, sy'n hyblyg i'r newid yn anghenion ei breswylwyr ac mae'n gobeithio medru cynnig hyn fel opsiwn ar gyfer cleientiaid y dyfodol.


Oherwydd yr amrywiaeth yn arddull y cartrefi y mae F1 Modular yn eu darparu, nid yw canfod pris cynrychioladol yn syml. Mae Dai yn hyderus fod dull y cwmni yn rhatach na datblygiad traddodiadol, oherwydd gwariant y byddid yn ei wneud fel arall ar y safle ac ychwanegodd f7od y gwir fudd yn dod o'r dull gweithio a warentir gan y cwmni ac felly ansawdd y cynnyrch a gaiff ei greu. Fodd bynnag, i roi rhyw fath o brisio dangosol, roedd uned llety modwlar dros dro ar gyfer Cyngor Haringey, gyda 2 bedsit ac ystafelloedd ymolchi a cheginau llawn, yn costio tua £100,000.


Esboniodd Dai fod gwarant ar gynnyrch y cwmni: mae ganddynt gymeradwyaeth cartrefi newydd a system premier LABC. Maent hefyd yn hyedrus y byddant yn cael gwarant NHBC yn y dyfodol agos i roi tawelwch meddwl i fenthycwyr.


Yn ymarferol, dylai maint y cynnyrch y gall y ffatri eu cynhyrchu fod yn ddigon mawr ar gyfer anghenion unrhyw ddatblygydd tai cymdeithasol: dangoswyd byngalo i fi a gaiff ei adeiladu mewn dau ran i sicrhau bod y modiwlau sy'n rhan ohono yn 4.95m o led, gan osgoi'r angen am hebryngwyr heddlu i fynd ag ef ar safle. Gellir dosbarthu unedau y gellir eu pentyrru, hyd at 6 uned o uchder a gellir tynnu'r rhain i lawr a'u symud os oes angen.


Mae'r sefydliad yn rhan o fframwaith Cynghrair Caffael Cymru ac yn agored iawn i drafodaeth gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ystyried sut gall gyfrannu at ddyfodol datblygu tai arloesol yng Nghymru.


Hugh Russell, Swyddog Polisi