Jump to content

31 Gorffennaf 2019

Adeiladu timau perfformiad uchel

Adeiladu timau perfformiad uchel
Gyda'n Cynhadledd Adnoddau Dynol a Dysgu & Datblygu i'w chynnal ym mis Medi, cawsom air gyda Nick Fewings, un o siaradwyr y gynhadledd a Chyfarwyddydd Ngagementworks. Mae'n dweud wrthym sut, ar ôl ymddangos mewn dros 500 cynhadledd ym mhedwar ban byd, iddo gael y llysenw 'Mr Infotainment' gyda'i allu i droi ei wybodaeth ymarferol, cynghorion ac awgrymiadau, yn adloniant.


"Dechreuodd fy ngyrfa yn syth ar ôl yr ysgol pan ddechreuais weithio i Banc Barclays yn amgodio eu sieciau. Dim ond oherwydd mod i mor hoff o chwarae Monopoly y cymerais y swydd ond dros gyfnod fe wnaeth fy swydd ddatblygu a dechreuais ymwneud gydag ochr pobl y gwaith.


Fe wnes amrywiaeth o swyddi yn ystod fy 21 mlynedd gyda Barclays, gan gael fy nyrchafu maes o law i swyddi arwain. Fel rhan o fy natblygiad, cefais achrediad mewn seicoleg ymddygiadol a dod yn fwy deheuig wrth gydnabod sut i weithio i gryfderau pobl a chreu timau perfformiad uchel. Erbyn i mi adael roeddwn yn Gyfarwyddydd Newid, yn gweithio gyda'r Prif Weithredydd i drosi strategaethau a chynllun corfforaethol y banc i sut y byddai angen i staff weithio'n wahanol yn y dyfodol.


Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod fod gan bawb wahanol gryfderau, eu bod yn ymateb yn wahanol i wahanol elfennau o'u swydd, ac nad yw dulliau cyfathrebu yr un fath i bawb. Yn y gynhadledd Adnoddau Dynol a Dysgu & Datblygu byddaf yn canolbwyntio ar yr hyn a alwaf y 'Triongl Aur'. Y tri pheth, yn seiliedig ar fy mhrofiad, sydd eu hangen i adeiladu timau perfformiad uchel.
  • Pwy sydd yn y tîm, a beth yw eu sgiliau technegol ac arddull ymddygiadol?

  • Beth yw diben y tîm?

  • Pa mor effeithlon mae'r tîm yn gweithio?


Byddwch yn barod am sesiwn rhyngweithiol, hwyliog a defnyddiol, wrth i ni gydweithio i adeiladu timau mwy effeithlon."


Archebwch eich tocyn ar gyfer ein cynhadledd Adnoddau Dynol a Dysgu & Datblygu cyn 17 Awst ac arbed £30 ar eich tocyn.