Jump to content

16 Hydref 2013

Adeiladu Menter yn lansio Fframwaith Cymorth a Phartneriaeth gyda'r Banc Elusen

Mae Adeiladu Menter, prosiect gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a ariennir gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) ac aelodau CHC heddiw wedi cyhoeddi enwau'r cyrff fydd yn ymuno â'i fframwaith i ddarparu pecynnau cymorth arbenigol i fentrau cymdeithasol yn deillio o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru.

Bydd prosiect Adeiladu Menter yn darparu cymorth pwrpasol i LCC a mentrau cymdeithasol sy'n gweithredu yn ardal y rhaglen Cydgyfeirio ac mae'n anelu i gefnogi'r economi, unigolion a mentrau cymdeithasol i gloi'r bunt Gymreig yng nghymunedau Cymru. Dyddiad cau'r broses tendr ar gyfer sefydliadau i ymuno â'r fframwaith oedd 11 Medi a bydd y rhai sydd ar y fframwaith, gyda phrofiad cyfreithiol, ariannol, technegol a rheoli busnes, yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol a LCC i bartneru ac annog modelau busnes newydd fydd yn creu swyddi lleol ac angori twf mewn cymunedau difreintiedig.

Mae LCC mewn safle da i gefnogi cymunedau i ddefnyddio eu sgiliau a'u hasedau i gefnogi mentrau cymdeithasol newydd a chyffrous. Gyda gwariant blynyddol cyfun o dros £1 biliwn a sylfaen asedau sefydlog o £2.5 biliwn, mae LCC ymysg y mentrau cymdeithasol mwyaf o ran maint a dylanwad yng Nghymru. Mae mwyafrif helaeth y cyfoeth yma'n parhau wedi'i gloi yng Nghymru ac mae Adeiladu Menter yn anelu i gynyddu'r budd cymunedol o'r gwariant yma.

Yn ogystal â lansio'r fframwaith yn y digwyddiad, bydd Cartrefi Cymunedol Cymru a'r Banc Elusen yn lansio cyfres o gefnogaeth a chyngor ariannol i'w symud i safle o fod yn barod ar gyfer buddsoddi. Bydd ar hyn ar gael i LCC a mentrau cymdeithasol, yn cynnwys y rhai nad ydynt yn ymwneud â phrosiect Adeiladu Menter.

Wrth siarad yn lansiad y fframwaith a'r bartneriaeth gyda'r Banc Elusen, dywedodd Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi ac Adfywio Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae gennym sefydliadau gwych ar y fframwaith gyda sgiliau, gallu ac arbenigedd sylweddol i'w ddefnyddio fod mentrau cymdeithasol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cynyddu'r budd cymunedol i'r effaith drwy gaffaeliad.

"Rydym hefyd yn croesawu cefnogaeth y Banc Elusen. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth weithredol i'r rhai sy'n ymwneud ag Adeiladu Menter, bydd y bartneriaeth gyda'r Banc Elusen yn sicrhau y gall pob sefydliad gael mynediad i gyfalaf twf."

Dywedodd Patrick Crawford, Prif Weithredydd y Banc Elusen: "Yn anffodus gall gormod o syniadau da fethu oherwydd diffyg cyfalaf, diffyg y sgiliau rheoli mwyaf perthnasol a dealltwriaeth annigonol o'r farchnad. Drwy fynd i'r afael â'r materion hyn, rwy'n ystyried fod partneriaeth y Banc Elusen gyda CHC yn rhoi dull o fod yn barod i fuddsoddiad a all drawsnewid tirlun menter gymdeithasol yng Nghymru a sicrhau buddion cymunedol cynaliadwy."

Cynhelir y lansiad am 1:45pm yng nghynhadledd flynyddol Menter Gymdeithasol Cymru yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd, ddydd Mercher 16 Hydref.