Jump to content

17 Rhagfyr 2019

Cyfweliad gyda . . . Shayoni Lynn

Cyfweliad gyda . . . Shayoni Lynn
Cynulleidfaoedd. P'un ai'n denantiaid neu wleidyddion, rydym eisiau ymgysylltu gyda nhw. Ond ydyn ni'n gwybod sut i wneud hynny? Bydd Shayoni Lynn, arbenigydd newid ymddygiad yn trafod damcaniaeth Procio - beth yw hynny, pam ei fod yn bwysig a beth fedrai ei wneud i rhaglenni cyfathrebu a marchnata, yn ein Cynhadledd Cyfathrebu 2020.


Crynhowch eich sesiwn mewn un frawddeg
Procio eich cynulleidfa tuag at ymddygiad mwy cadarnhaol: deall seicoleg gwneud penderfyniadau a beth fedrai fod yn atal eich cynulleidfaoedd rhag gweithredu.


Pa un ddull mesur fedrech chi ddim gwneud hebddo?
Dyna gwestiwn gwirioneddol anodd! Byddwn yn mynd am Google Data Studio gan fod ganddo ategion lluosog ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau eraill i ddal i fedru gweld adroddiad integredig.


Pa mor bwysig yw hi i fesur llwyddiant ein cyfathrebu?
Hollol hanfodol. Nid dim ond am fesur llwyddiant mae hyn ond mesur a gwerthuso ein holl gyfathrebu ac ymgyrchoedd - llwyddiannus ai peidio. Gall ymgyrchoedd neu allbynnau nad ydyn nhw'n gweithio fod yn help mawr wrth ddarogan gwaith y dyfodol! Ni fedrwn ddangos ein gwerth fel cyfathrebwyr strategol os na fedrwn fesur effaith ein gwaith yn effeithlon a diriaethol. Ac os na fedrwn ddangos ein gwerth, ni allwn ofyn am y codiad cyflog hwnnw, hawlio sedd ar y bwrdd, neu'r cyfan fyddwn yw blwch llythyrau gyda nifer fawr o geisiadau yn cyrraedd na fedrwn ddweud na wrthynt.


Beth fydd cynrychiolwyr yn ei gael o'ch sesiwn?
Gwell dealltwriaeth o sut mae cynulleidfaoedd yn gwneud penderfyniadau, y rhagfarnau gwybyddol cynhenid yr ydym i gyd yn agored iddynt, a sut y gallant effeithio ar wneud penderfyniadau. Mae damcaniaeth procio ynglŷn â datblygu strategaethau cyfathrebu craffach, effeithlon am gost is, a gyda mwy o barch at ddewis personol.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y Gynhadledd Cyfathrebu?
Cwrdd â swyddogion cysylltiadau a chyhoeddus a chyfathrebu y sector tai o bob rhan o'r wlad a dysgu mwy am eich gwaith!



Archebwch eich tocyn am ein Cynhadledd Cyfathrebu yma.