Jump to content

02 Mawrth 2017

Lansio ein blog newydd!

Picture of previous editions of Cartref


Ydych chi'n cofio'r dyddiau pan arferai cylchgrawn Cartref gyrraedd eich desg bob mis neu ddau?


Ar ôl gwrando ar adborth gan aelodau ac fel estyniad i'n hadnewyddiad brand diweddar, rydym wedi ailwampio'r cylchgrawn a'i drawsnewid yn gyhoeddiad ar-lein.


Bydd y safle yma'n awr yn gweithredu fel ein blog a'n cylchgrawn, y cyfan yn un, ac mae'n golygu y gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth ddiweddaraf rydych ei hangen mewn un lle. Mae'n amlwg yn fonws enfawr i newid i fformat ar-lein - bydd bob amser yn gyfoes ac ni fydd yn rhaid i ni aros tan y 'rhifyn nesaf' i gyhoeddi gwybodaeth newydd!


Byddwn yn diweddaru'r safle'n rheolaidd gyda newyddion a blogiau gan staff CHC, ac rydym hefyd yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn cael digonedd o gyfraniadau gan flogwyr gwadd ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi a'ch sefydliadau.


Rydym yn lansio'r safle newydd yn union cyn ein Cynhadledd Llywodraethiant yn Llandrindod. Mae'r nifer fwyaf erioed o gynrychiolwyr wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad ac edrychwn ymlaen yn fawr at y sesiynau sydd gennym ar y gweill ar gyfer ein cynrychiolwyr dros y deuddydd nesaf. Cofiwch gysylltu â ni os hoffech flogio am eich sylwadau ar y Gynhadledd Llywodraethiant neu unrhyw un o'n digwyddiadau eraill!


Tra'n bod yn sôn am ein digwyddiadau, rydym yn lansio digwyddiad newydd sbon ar 3/4 ym Mharc Cefn Lea (Y Drenewydd) - Gwersyll Tai! Anelwyd y digwyddiad at y rhai ohonoch sydd ar reng flaen eich sefydliadau, mewn cysylltiad gyda thenantiaid a'ch cymunedau lleol bob dydd, ac mae'n edrych yn wahanol iawn i unrhyw beth a wnaethom o'r blaen! Bydd y rhaglen lawn allan yn fuan iawn, a gallwch archebu eich lle hefyd ar ein gwefan.


Cofiwch gysylltu â fi ar bethan-davies@chcymru.org.uk os hoffech gyfrannu at ein blog newydd neu os oes gennych unrhyw adborth. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at glywed eich sylwadau ar y cyhoeddiad newydd sbon yma!
Bethan Davies
- Rheolydd Cyfarthrebu, CHC