Jump to content

13 Mehefin 2018

25 dyfyniad arweinyddiaeth i'ch ysbrydoli

25 dyfyniad arweinyddiaeth i'ch ysbrydoli
Pan ddaw i deimlo'n gadarnhaol, nid oes dim fel dyfyniad i ysbrydoli.


Bydd ein cynhadledd arweinyddiaeth ar 19/20 Mehefin yn cynnwys sesiynau penodol ar gyfer darpar arweinwyr yn ogystal â gweithdai arloesol arddull 'bowlen bysgod', sesiynau cyflym 'cwrdd â'r arbenigydd' a nifer fawr o gyfleoedd rhwydweithio i'ch helpu i ddatblygu cysylltiadau newydd gwerthfawr, meithrin dylanwad, meddwl yn wahanol a chamu allan o'ch parth cysur.


Gall cynrychiolwyr archebu yma a gweld y rhaglen lawn yma.


Cofiwch, dim arwain y dyrfa mae arweinwyr, maent yn gosod eu llwybr eu hun ac yn gosod sut maent eisiau byw eu bywydau felly gadewch i'r dyfyniadau hyn eich ysbrydoli am lwyddiant.

    1. Mae arweinyddiaeth a dysgu yn hollol hanfodol i'w gilydd – John F Kennedy

    2. Mae'n well arwain o'r tu ôl a rhoi eraill yn y blaen, yn arbennig pan fyddwch yn dathlu buddugoliaeth pan fo pethau braf yn digwydd. Ewch i'r rheng flaen pan mae perygl. Bydd pobl wedyn yn gwerthfawrogi eich arweinyddiaeth – Nelson Mandela.

    3. Mae'n rhaid i chi fod yn llosgi gyda syniad, neu broblem, neu gam yr ydych eisiau ei unioni. Os nad ydych yn ddigon angerddol o'r cychwyn cyntaf, ewch chi byth yr holl ffordd - Steve Jobs.

    4. Os yw'r hyn a wnewch yn creu gwaddol sy'n ysbrydoli eraill i freuddwydio mwy, dysgu mwy, gwneud mwy a dod yn fwy, yna rydych yn arweinydd ardderchog - Dolly Parton.

    5. Ni allaf newid y byd ar fy mhen fy hun ond gallaf daflu garreg ar draws y dŵr i greu llawer o fân donnau – Y Fam Teresa.

    6. Nid yw arweinydd go iawn yn chwilio am gonsensws ond yn llunio consensws - Martin Luther King Jr.

    7. Ni ddaw newid os ydym yn aros am ryw berson arall, neu os arhoswn am ryw amser arall. Ni yw'r rhai y buom yn aros amdanynt. Ni yw'r newid a geisiwn - Barack Obama.

    8. I'ch trin eich hun, defnyddiwch eich pen; i drin eraill, defnyddiwch eich calon - Eleanor Roosevelt.

    9. Ymdrechwch nid i fod yn llwyddiant, ond yn hytrach i fod o werth - Albert Einstein.

    10. Os credwch y gallwch rydych hanner ffordd yno -Theodore Roosevelt.

    11. Mae amser yn niwtral ac nid yw'n newid pethau. Gyda dewrder a chymhelliant, mae arweinwyr yn newid pethau - Jesse Jackson.

    12. Y ffordd fwyaf effeithlon o'i wneud yw ei wneud - Amelia Earhart.

    13. Mae gwneud pethau mawr yn anodd, ond mae gorchymyn pethau mawr yn anos - Friedrich Nietzsche.

    14. Nid fy ngwaith i yw bod yn rhwydd gyda phobl. Fy ngwaith i yw eu gwella – Steve Jobs.

    15. Gall un llais newid ystafell - Barack Obama.

    16. Yr arweinydd yw'r un sydd, allan o annibendod, yn dod â symlrwydd. Allan o gynnen, gytgord. Ac allan o anhawster, cyfle - Albert Einstein.

    17. Y peth dewraf yw meddwl drosoch eich hun. Yn uchel - Coco Chanel.

    18. Os ydych eisiau adeiladu rhywbeth gwych, dylech ganolbwyntio ar ba newid y dymunwch ei wneud yn y byd - Mark Zuckerberg.

    19. Cyfathrebu yw'r sgil bwysicaf i unrhyw arweinydd - Richard Branson.

    20. Nid yr arweinydd gorau o reidrwydd yw'r un sy'n gwneud y pethau gorau. Ef yw'r un sy'n cael y bobl i wneud y pethau gorauRonald Reagan.

    21. Mae synnwyr digrifwch yn rhan o grefft arweinyddiaeth, o dynnu ymlaen gyda phobl, gael pethau wedi'i gwneud - Dwight D. Eisenhower.

    22. Nid wyf wedi methu. Rwyf newydd ganfod 10,000 o ffyrdd nad ydynt yn gweithio -Thomas A. Edison

    23. Tasg arweinydd yw cael pobl o ble maent i lle nad ydynt wedi bod – Henry Kissinger.

    24. Wn i am ddim un fformiwla am lwyddiant. Ond dros y blynyddoedd sylwais fod rhai o nodweddion arweinyddiaeth yn gyffred ac maent yn aml am ganfod ffyrdd o annog pobl i gyfuno eu hymdrechion, eu talentau, eu dirnadaeth, eu brwdfrydedd a'u hysbrydoliaeth i gydweithio - Elizabeth II.

    25. Yr hyn a ddysgais o redeg yw mai'r amser i wthio'n galed yw pan mae'r boen ar ei waethaf a rydych eisiau rhoi'r gorau iddi. Mae llwyddiant yn aml o amgylch y gornel nesafJames Dyson.