Jump to content

05 Hydref 2017

Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol - beth ydyn ni wedi'i ddysgu hyd yma?




Dywedodd Debbie Larner yn e-fwletin 'Inside Housing' heddiw - "Mae Credyd Cynhwysol yn iawn mewn egwyddor ond yn broblemus yn ymarferol os na chaiff ei arafu ... Mae bellach gynifer o bryderon am y newid mwyaf i'n system llesiant mewn 40 mlynedd fel ei bod yn anodd deall sut y gall David Gauke, Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau, symud ymlaen ..."


Nid yw'r problemau hyn yn newyddion i'r Adran Gwaith a Phensiynau - roeddent yn amlwg iawn yn y gwerthusiad o'u Prosiectau Arddangos Taliad Uniongyrchol dair blynedd yn ôl. Roedd y cysyniad o Statws Partner Dibynadwy yn un o lawer o ymatebion cadarnhaol a rhagweithiol gan landlordiaid cymdeithasol i'r canfyddiadau fod tua 30% o denantiaid angen trefniadau talu amgen.


A dyfalwch beth? Ein profiad yma ym Mron Afon dri mis i mewn i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol yw bod 32% o'r defnyddwyr cyntaf angen trefniadau talu amgen. Popeth yn iawn am ymestyn y Porth Landlord & TPS yr oedd cymaint o'i angen ar gyfer landlordiaid mwyaf Prydain, ond dylai'r rhain fod wedi bod yn rhan hanfodol o ymestyn y gwasanaeth llawn o'r diwrnod cyntaf ac felly hefyd ymagwedd llawer mwy pragmatig a thrugarog at drosglwyddo.


Ar gyfartaledd cymerodd 5.8 wythnos i'r 70% o hawliadau cyntaf Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol a wnaeth ein tenantiaid ym mis Gorffennaf i dderbyn eu taliad cyntaf. Erbyn canol mis Medi, roedd 3 mewn 10 o'r cohort cyntaf yn dal i aros, gydag amcangyfrif y bydd yr amser aros rhwng hawlio a thalu tua 9.6 wythnos. Byddai taliad trosglwyddo unigol o fudd-dal tai tuag at gostau tai hanfodol dros y cyfnod aros yn llacio llawer o galedi diangen, hyd yn oed ar gyfer y Llywodraeth.


Mae cyflymu mynediad i daliadau uwch yn swnio'n gadarnhaol, ond yn aml dim ond gohirio'r boen mae gofynion ad-dalu cynnar. O gymharu, mae'n ddiddorol nodi sut y cyflwynir taliadau benthyciadau myfyrwyr pan fyddant yn 'fforddiadwy' (ac mae sôn y gall dyledion gael eu dileu yn y dyfodol) a chaiff ad-daliadau Cymorth Prynu eu gohirio am 5 mlynedd.


Os na chaiff y materion hyn eu trin yn iawn, bydd gwasanaeth 'llawn' yn gadael llawer gormod o aelwydydd yn rhedeg ar wag.


Os ydych yn y Gynhadledd Tai Fawr dros yr ychydig ddyddiau nesaf, dewch draw i fy sesiwn gweithdai i ganfod mwy!
Ian Simpson
– Cartrefi Cymundol Bron Afon