Jump to content

28 Medi 2017

Ymgeisydd #2 rownd derfynol Gwobr Creu Creadigrwydd - Homestep Plus (United Welsh)




Caiff cynllun Homestep Plus ei gyflwyno gan United Welsh a Chyngor Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.


O'i hanfod, mae Homestep Plus yn gynllun perchnogaeth cartref cost isel. Fodd bynnag, mae'r prosiect yn wahanol oherwydd ei fod yn trin dwy broblem:


1. Yr anhawster sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf i fforddio eu cartref cyntaf
2. Problem tai gwag


Ar gyfartaledd, mae prynwyr yng Nghymru angen ernes o tua £17,000 i brynu eu cartref cyntaf yn ôl adroddiad Halifax a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017. Mae hwn yn swm sydd tu allan i gyrraedd llawer sy'n dymuno prynu eu cartrefi eu hunain.


Yn ychwanegol, mae'r ffigurau diweddaraf yn awgrymu fod tua 23,000 o gartrefi gwag yng Nghymru a bod angen 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn i ateb y galw.


Ar amser anodd ar gyfer y farchnad tai pan fo opsiynau tai yn gyfyngedig, mae'r adeiladau gwag hyn hyd yn oed yn fwy o wastraff ar adnoddau.


Mae Homestep Plus yn greadigol oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i brynwyr tro cyntaf brynu cartref a arferai fod yn wag ond a adnewyddwyd, a hynny am lai na gwerth y farchnad.


Mae United Welsh yn dynodi ac yn prynu adeiladau gwag yn ardal cod post CF37 Pontypridd ac wedyn, os oes angen, yn adnewyddu'r cartrefi cyn eu rhestru ar werth am 70% o'r pris gofyn.


Gall y rhai sy'n dymuno prynu eu cartref cyntaf yn yr ardal hefyd ddynodi adeilad gwag sy'n diwallu'r meini prawf. Byddwn wedyn yn prynu ac yn adnewyddu'r cartref ar eu rhan a'i werthu iddynt ar y pris disgownt.


Mae'r model hwn yn golygu fod adeiladau a fu'n wag am gyfnodau hir yn cael oes newydd a'u hadnewyddu i safon uchel, a gall prynwyr tro cyntaf brynu cartref fforddiadwy a gafodd ei wirio i safonau cenedlaethol.


Ers ei lansio, mae Homestep Plus wedi dod â 10 cartref gwag yn ôl i'r farchnad tai ac wedi galluogi 14 o bobl i brynu eu cartref cyntaf.


Diolch i Homestep Plus, symudodd Peter O'Sullivan i'w gartref cyntaf ym mis Rhagfyr. Cafodd ei dŷ tair ystafell wely ei farchnata am £77,000 yn seiliedig ar 70% rhannu ecwiti.


Dywedodd, "Roedd y pris yn fwy na rhesymol ac mae natur fforddiadwy y cynllun wedi fy ngalluogi i gynnal fy ffordd o fyw. Nawr rwyf mewn sefyllfa lle rwy'n berchennog cartref ond dydwi ddim yn gorfod peidio gwneud pethau fel mynd i deithio. Rydw i'n teimlo'n lwcus iawn"


Mae perchennog cartref arall yn mwynhau taliadau morgais misol sy'n llai na hanner ei rent blaenorol.


Roedd cartref Ryan Johnson, 29 oed, wedi bod yn wag am wyth mis cyn i United Welsh ei brynu a'i adnewyddu yn cynnwys gosod boeler newydd, insiwleiddio atig a pheintio allanol.


Meddai Ryan, "Roedd codi'r ernes o 5% yn iawn ond mae'n wych bod mewn sefyllfa lle mae fy ad-daliad morgais misol yn llai na hanner yr arferwn ei dalu bob mis mewn rhent."


Credwn y dylai Homestep Plus ennill oherwydd ei bod yn dod â chartrefi y mae eu mawr angen yn ôl i ddefnydd a rhoi cyfle i bobl i brynu eu cartref eu hunain o'r diwedd - rhywbeth nad oedd llawer o bobl yn credu fyddai byth yn bosibl iddynt.


Targed blynyddol United Welsh yw cynnig 20 cartref drwy drawsnewid adeiladau gwag, lesu preifat ac achub morgeisi. Mae Homestep Plus eisoes wedi cyflawni 50% o hyn ac rydym wrthi'n prynu dau adeilad arall ar hyn o bryd.


Canfyddwch os gwnaethom ennill y wobr Creu Creadigrwydd yng Nghynhadledd Tai Fawr CHC yr wythnos nesaf! https://chcymru.org.uk/en/events/view/2017-one-big-housing-conference