100 diwrnod Plaid Cymru mewn llywodraeth: Beth mae’n ei olygu ar gyfer tai?
Alex Myles, Cynorthwyydd Materion Allanol, Cartrefi Cymunedol Cymru
Gwyddem fod Plaid Cymru ar frys i weithredu. Roedd Rhun ap Iorwerth yr arweinydd wedi cyflwyno ei stondin yn gynnar, gan gyhoeddi cynllun 100 Diwrnod Cyntaf hyd yn oed cyn diwrnod yr etholiad – a’i dychwelodd maes o law fel Prif Weinidog a’i blaid fel llywodraeth leiafrifol yng Nghymru.
Wrth i aelodau cabinet ac Aelodau o’r Senedd newydd gael eu traed oddi tanynt yn nhymor yr haf, gwnaed cyhoeddiadau sylweddol ar flaenoriaethau’r llywodraeth, sef gofal plant, y GIG a chostau byw.
Blaenoriaethau tai
Wrth siarad yn Un Gynhadledd Fawr CHC ym mis Mehefin, siaradodd Siân Gwenllian AS, gweinidog tai y cabinet newydd, am ei gweledigaeth ar gyfer Unnos – “corff datblygu cenedlaethol newydd a galluogydd tai cymdeithasol” yn gweithio i “ddileu y rhwystrau sy’n rhy aml yn arafu darpariaeth tai cymdeithasol.” Siaradodd hefyd am yr Hawl i Gartref Digonol, gan geisio ymwreiddio’r hawl hwn – cynnig daliadaethau diogel i ddinasyddion sy’n briodol yn ddiwylliannol ac yn hygyrch i wasanaethau cyhoeddus – yn y gyfraith, “gan anfon arwydd clir nad nwydd yw tai yng Nghymru. Mae’n hawl.”
Ers yr araith honno yn y gynhadledd, mae’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wedi ymrwymo i fil sy’n anelu i gryfhau hawliau pobl sy’n byw mewn cartrefi rhent preifat a mesurau pellach i wella fforddiadwyedd tai, gwneud rhenti yn decach a chyfyngu troi allan heb fai gan landlordiaid preifat.
Gwelsom hefyd gyhoeddi targed ar gyfer tai cymdeithasol – ymrwymiad i gyflenwi 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn llwyr ar gyfer rhent cymdeithasol a chanolraddol. Mae hyn hefyd yn cynnwys caffaeliadau, fel y caiff cartrefi y mae cymdeithasau tai yn eu caffael o’r farchnad preifat eu cynnwys.
Wrth i ni ddod i ddiwedd y cyfnod 100 diwrnod, mae uchelgais y llywodraeth newydd yn glir. Ond, fel bob amser gyda rhaglenni radical o lywodraeth, mae’r ddarpariaeth yn llai sicr. Caiff hyn ei gymhlethu gan ffaith syml y rhifau yn y Senedd a phwysau cynyddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Cylibed atodol
Cyhoeddodd gweinidogion y Llywodraeth gyfres o gyhoeddiadau gwariant o’i chyllideb atodol – yn cynnwys buddsoddiad yn ystod y flwyddyn o £20m mewn tai cymdeithasol drwy’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol. Roedd hyn yn arwydd gwirioneddol gadarnhaol o flaenoriaethau tai cymdeithasol y llywodraeth newydd.
Yn y pen draw, fodd bynnag, ni chafodd y gyllideb ddrafft ei phasio. Bydd yn rhaid i Elin Jones, Gweinidog y Cabinet dros Gyllid, ailgyflwyno’r cynlluniau i’r Senedd yn yr hydref ynghyd â’i chyllideb flynyddol hollbwysig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yn rhaid i’r gweinidog daro bargeinion ar gyfer y gyllideb derfynol i basio yn y gaeaf a chanfod tir cyffredin gyda phleidiau gwleidyddol eraill.
Fel canolbwynt y gyllideb, bydd angen i’r biliau a gynhwysir ym mlaenoriaethau deddfwriaethol y Prif Weinidog ganfod consensws trawsbleidiol i gyrraedd y llyfr statud. Mae’n rhoi cyfle gwirioneddol i’r gwrthbleidiau, a phwyllgorau newydd y Senedd i lunio deddfwriaeth i lefel nas gwelwyd o’r blaen.
Bydd gennym ni a’n partneriaid felly ran bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo a llywio siâp deddfwriaeth, polisi a chyllid. Er fod Senedd estynedig yn cynnig cyfleoedd lluosog i feithrin perthnasoedd ar draws y sbectrwm gwleidyddol, mae cyllid yn cyfyngu’r hyn y gellir ei wneud mewn gwirionedd. Mae’r llywodraeth hon wedi etifeddu sefyllfa gyllidol neilltuol o galed lle bydd cyfanswm cyllid cyfalaf, mewn gwir dermau, yn gostwng o 2027/2028 ymlaen yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol.
Roedd dyrannu £20m ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol yn y gyllideb atodol yn arwydd a groesawyd fod llywodraeth Plaid Cymru yn cydnabod ac yn dymuno mynd i’r afael â’r argyfwng tai. Ond nid yw ei faniffesto yn brin o addewidion gwariant. Mae ymrwymiadau ar seilwaith rheilffyrdd, opsiynau i ddileu tagfeydd ar yr M4, cysylltedd band eang a gwelliannau i stadau ysgolion a’r GIG – i gyd yn gynhenid gostus.
Yma mae her sylweddol llywodraethu: blaenoriaethau.
Tai yn eu cyfanrwydd
Mae CHC yn glir nad yw tai yn cystadlu gydag iechyd na’r economi, mae’n sylfaen iddynt. Er fod buddion iechyd ataliol cartref cynnes rhydd o leithder yn hysbys iawn, canfu ein hymchwil fod diffyg tai addas yn dod yn ffactor fwy sylweddol mewn oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai. Mae oedi cysylltiedig â thai yn costio £2.49 miliwn bob blwyddyn i’r GIG, arian a allai ddarparu mil o addasiadau y mae angen dybryd amdanynt i dai neu gyllido rhent dros 400 o gartrefi cymdeithasol.
Ar yr un pryd, fe wnaeth CHC gomisiynu Savills i fodelu effaith economaidd 20,000 o gartrefi a adeiladwyd gan gymdeithasau tai dros gyfnod o bedair blynedd. Mae’r canlyniadau yn ddwfn. Ym mhob blwyddyn o gyflenwi, byddai cymdeithasau tai yn creu 14,200 o swyddi ychwanegol. Mae hynny tua 6,000 o bobl yn gweithio mewn adeiladu a 8,000 yn y gadwyn gyflenwi. Byddai 2,000 o brentisiaethau yn cael eu creu ynghyd â 1,200 lleoliad gwaith.
Mae’r effaith hwn yn ategu’r gwerth cymdeithasol sylweddol y mae cymdeithasau tai yn ei roi ar gyfer preswylwyr a chymunedau, gyda thimau rheng flaen yn mynd yr ail filltir wrth helpu tenantiaid i wynebu’r argyfwng costau byw drwy dimau arbennig ar gyngor arian, cronfeydd a thalebau caledi ac offer prydau bwyd fforddiadwy.
Mae pawb yn haeddu eu cartref eu hunain. Er cyllideb heriol a rhifau pleidleisio yn y siambr, mae’r realaeth yn parhau yr un fath. Mae ffigurau llety dros dro yn ystyfnig. Mae’r farchnad breifat allan o gyrraedd llawer. Mae biliau ynni yn uchel tu hwnt.
Beth sydd nesaf
Mae rheoli cyllideb dyn heb fwyafrif yn y senedd yn her ddifrifol. Ond mae meysydd gyda thir cyffredin. Yn gynyddol mae consensws ar lawr y siambr am y cyflenwad o dai cymdeithasol sydd angen dybryd amdanynt a dyma’r datrysiad mwyaf poblogaidd ymysg y cyhoedd i roi diwedd ar ddigartrefedd. Os yw’r llywodraeth eisiau gwneud atal yn flaenoriaeth, byddai cynllun hirdymor ar gyfer tai yn alluogydd allweddol.
Rydym angen eich help i’n cynorthwyo i gyflwyno achos cadarn dros fuddsoddiad hirdymor mewn tai. Mae arolygon am bwysau cronnus a chostau byw gyda’ch timau ar hyn o bryd i gael eu llenwi, yn ogystal ag arolwg ar yr heriau sy’n wynebu eich timau cymorth – gyda chyllid refeniw yn edrych yn her neilltuol yn y cylch cyllideb hwn.
Ac i gefnogi eich gwaith dylanwadu eich hun, bydd gennym amrywiaeth o adnoddau ar gael yn fuan ar adran newydd materion cyhoeddus ein Hyb Tai. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar ASau allweddol, map o etholaethau newydd ac ardaloedd gweithredu cymdeithasau tai ynghyd â fframwaith negeseuon i’n hannog i siarad fel llais grymus ac unedig.
Mae gan Blaid Cymru gyfle i wneud darparu tai fforddiadwy yn nodwedd allweddol i’r llywodraeth. Mae eich sefydliadau yn sefyll yn barod i sicrhau newid parhaus ond mae’n rhaid i’r amodau cywir fod yn eu lle. Gadewch i ni osod cartrefi wrth galon dyfodol Cymru.