Jump to content

A all dangosfyrdd pensiynau liniaru bom amser pensiynau?

Mehefin 20, 2024 @ 11:00yb
Webinar 1hr Zoom webinar

Gallai’r cyfuniad o boblogaeth sy’n heneiddio, y gostyngiad mewn cynlluniau pensiwn budd diffiniedig a chynilon annigonol i bensiynau cyfraniad diffiniedig arwain yn rhwydd at argyfwng pensiynau.

Yn y weminar yma bydd Stuart Price a Chris Heirene o Quantum Advisory yn edrych sut y gellid osgoi’r argyfwng drwy hyrwyddo’r defnydd o Ddangosfyrddau Pensiynau, dull cynyddol boblogaidd fydd yn galluogi unigolion i weld yr holl wybodaeth am eu pensiynau mewn un lle, canfod yn rhwydd faint y gallant ddisgwyl ei gael adeg ymddeol a chynllunio ar gyfer y ddyfodol.

Mae Quantum Advisory, un o’n partneriaid masnachol yn gwmni ymgynghori gwasanaeth ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a budd cyflogeion i gyflogwyr a’u staff.