Jump to content

Treth ar Werth ar dir ar gyfer tai cymdeithasol

Gorffennaf 22, 2026 @ 2:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar ddiwygio rheolau TAW i gymell datblygu ar dir ar gyfer tai cymdeithasol.

Dan reolau presennol TAW, dim ond fel bod wedi eithrio (cost TAW debygol ar gyfer y gwerthwr) neu gyfradd safonol os codir treth (cost TAW debygol i gymdeithasau tai) y gellir trin tir. Mae hyn yn aml yn arwain at beidio trosglwyddo safle nes fod yr adeilad yn cyrraedd y cam ‘bricsen aur’ – pwynt yn y broses lle mae’r adeilad wedi symud tu hwnt i’r lefel sylfaen fel ei fod yn ‘amlwg yn cael ei adeiladu’. Ar neu ar ôl y cam bricsen aur mae atebolrwydd TAW y trosglwyddiad yn radd sero gan olygu na chaiff TAW ei godi gan y gwerthwr ac y gall y gwerthwr hefyd adennill unrhyw TAW a godwyd ar ei gostau cysylltiedig.

Mae hyn yn cyflwyno oedi, cymhlethdodau a chostau ychwanegol i’r broses ddatblygu. Mae’r llywodraeth wedi cydnabod y gellid goresgyn y diffyg effeithiolrwydd hyn drwy newid syml i reolau TAW: graddiad sero ar dir a gaiff ei werthu i ddarparwyr cofrestredig.

Cynhelir yr ymgynghoriad am 8 wythnos rhwng 23 Mehefin 202 a 18 Awst 2026

Ymunwch â ni i drafod yr ymgynghoriad a bwydo mewn i’r ymateb gan Cubed Tax a CHC