NEWID Ar-lein: Llunio Cynnig y Sector ar Sgiliau a Mynd i’r Afael â’r Argyfwng NEET
Rhydd
Gydag un ym mhob chwech o bobl ifanc yng Nghymru heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), mae Llywodraeth Cymru yn llunio ei strategaeth newydd ar sgiliau a gydag Adolygiad Milburn newydd ei gyhoeddi, mae gan gymdeithasau tai gyfle amserol i ddiffinio eu cynnig. Gyda’n gilydd, gallwn helpu tenantiaid i gynyddu eu sgiliau, cael mynediad i swyddi ansawdd da a gostwng diffyg cydraddoldeb economaidd rhanbarthol ar draws Cymru.
Gan adeiladu ar sesiwn mis Gorffennaf ar yr Economi, bydd y gweithdy 90-munud hwn yn rhoi trafodaeth ar waith drwy ffurfio “cynghrair o’r bodlon” o amgylch cynllun ar y cyd gan y sector:
- Cyd-destun strategol: Canfyddiadau allweddol o Adolygiad Milburn a diweddariad ar yr hyn y bu CHC yn galw amdano gan Lywodraeth Cymru.
- Dewis ein llwybr: Dewis ac ymrwymo i un o dri llwybr gweithredu:
- Hyfforddwyr a chyflogwyr: Cynyddu cynlluniau fel y llwybr gyrfaoedd gwyrdd (Codi) a Flying Sparks drwy academïau a rhaglenni adeiladu, gan roi NEET yn gyntaf yn y llinell.
- Entrepreneuriaeth ieuenctid: Gweithredu fel y cyswllt lleol yn cysylltu pobl ifanc gyda chymorth menter tebyg i Syniadau Mawr Cymru.
- Ymchwilio’r argyfwng: Adeiladu sylfaen tystiolaeth sector-cyfan ar pam fod pobl ifanc yng Nghymru yn dod yn NEET.
- Ei wneud yn real: Cytuno ar arweinyddiaeth, yr adnoddau sydd eu hangen a’r camau nesaf un ar gyfer y llwybr y gwnawn ei ddewis.
Ymunwch â ni i lunio cynnig sgiliau y sector ac ymrwymo i weithredu ystyrlon ar gyfer pobl ifanc yn ein cymunedau.