Deddf Rhentu Cartrefi Cymru – sesiwn sbotolau gyda Hugh James ar fapio cydymffurfiaeth yn ehangach
Rhydd
Y llynedd mewn ymateb i achos llys EICR fe wnaethom gynnal gwaith mapio cydymffurfiaeth ehangach ar Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru gyda’n haelodau i ddynodi unrhyw broblemau ar draws gweddill y Ddeddf. Roedd hyn yn cyfeirio yn benodol at unrhyw broblemau neu heriau yn gysylltiedig â chydymffurfiaeth gyda rhannau eraill y Ddeddf, gyda sylw neilltuol i feysydd a fedrai fod yn gysylltiedig gyda chymalau ad-dalu rhent.
Yn y sesiwn sbotolau yma bydd Hugh James yn crynhoi eu sylwadau a roddwyd fel rhan o’r gwaith hwn, gan dynnu sylw at unrhyw feysydd allweddol o risg.