Cysylltu Cartrefi, Trawsnewid Bywydau: Y Cyfle Ffibr Llawn ar gyfer Tai Cymru
Rhydd
A yw eich portffolio tai chi yn barod ar gyfer dyfodol digidol?
Mae cysylltedd digidol dibynadwy yn gyflym yn dod yn sylfaenol i sut mae pobl yn byw, gweithio a dysgu a chyrchu gwasanaethau hanfodol.
Ond mae Ffibr Llawn yn llawer mwy na dim ond band eang cyflymach. Gall agor cyfleoedd newydd ar gyfer preswylwyr i gael mynediad i gyflogaeth a sgiliau, gweithio gartref, ymwneud ag addysg a gofal iechyd , a chymryd rhan mewn economi sy’n gynyddol ddigidol ac a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial.
Mae cysylltedd yn dod yr un mor bwysig ar gyfer cymdeithasau tai. O ddatblygu cartrefi newydd a buddsoddi mewn stoc presennol i ddarparu gwasanaethau digidol i denantiaid, defnyddio deallusrwydd artiffisial, cefnogi teleofal a galluogi dulliau mwy craff o reoli asedau, bydd ansawdd y seilwaith digidol sylfaenol o bwys cynyddol.
Ymunwch ag Openreach a Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer gweminar ymarferol yn edrych ar beth mae’r cyfle Ffibr Llawn yn ei olygu ar gyfer tai, preswylwyr a chymunedau yng Nghymru, a’r hyn y dylai timau asedau a datblygu fod yn ei ystyried yn awr.
Yr hyn y byddwn yn rhoi sylw iddo:
- Y cyfle Ffibr Llawn i Gymru
- Cysylltu cartrefi, creu cyfleoedd
- Yr economi ddigidol
- Cefnogi cartrefi presennol a MDU
- Safleoedd newydd: cysylltiad o’r diwrnod cyntaf
- Paratoi cartrefi ar gyfer y dyfodol digidol
Pwy ddylai fynychu?
Bydd y sesiwn yma yn neilltuol o berthnasol i:
- Rheolwyr asedau ac eiddo
- Cyfarwyddwyr datblygu a thimau datblygu
- Timau adeiladu newydd ac adfywio
- Arweinwyr digidol a thechnoleg
- Timau tai a gwasanaeth cwsmeriaid
- Timau datgarboneiddio ac ôl-osod
- Uwch arweinwyr sy’n gyfrifol am strategaeth asedau y dyfodol
Pam mynychu?
P’un ai ydych yn adeiladu cartrefi newydd neu’n buddsoddi mewn stoc presennol, bydd y sesiwn yma yn eich helpu i ddeall sut y gall Ffibr Llawn: gysylltu cartrefi, creu cyfleoedd ar gyfer preswylwyr, cefnogi trawsnewid gwasanaethau tai a helpu i baratoi cymunedau Cymru ar gyfer dyfodol cynyddol ddigidol. Mae Ffibr Llawn yn fwy na dim ond cysylltu eiddo. Mae’n ymwneud â chysylltu pobl gyda chyfle.