Mini-cyhoeddus: Helpu cymdeithasau tai i gasglu gwybodaeth ymgysylltiol gan eu tenantiaid
Mae’n hanfodol fod cymdeithasau tai yn cynnwys llais tenantiaid wrth ddylunio gwasanaethau i sicrhau eu bod yn effeithiol, effeithlon a yn rhoi gwerth am arian. Fodd bynnag, gall fod yn anodd casglu cipolwg ar beth mae tenantiaid wir ei angen.
Gall y dull mini-cyhoeddus, sy’n anelu i sefydlu perthnasoedd dynol syml tu allan i’r dulliau darparydd/defnyddiwr y dibynnir arnynt fel arfer, helpu i fynd i’r afael â’r her yma, gan ysgogi datrysiadau y mae’r gymdeithas tai a hefyd eu tenantiaid yn berchen arnynt mewn awyrgylch o gydweithio.
Yn y sesiwn yma bydd Rob Rowlands ac Andy Wright o Engaging 4Thought yn trafod sut y gall aelodau bwrdd roi’r dull gweithredu hwn ar waith yng nghyd-destun eu sefydliadau eu hunain, gan sicrhau fod y broses yn bragmatig, syml a hirdymor.