Digwyddiad rhwydweithio aelodau bwrdd - De Cymru
Yn y digwyddiad hwn byddwn yn ystyried gyda’n gilydd yr adroddiad terfynol ar drychineb Grenfell a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae gan yr adroddiad eang hwn oblygiadau sylweddol ar gyfer byrddau cymdeithasau tai mewn meysydd tebyg i ddiwylliant sefydliadau, sicrwydd a gwrando ar a gweithio gyda thenantiaid.
Dywedodd Ali Akbor, aelod o’r ymchwiliad: “Yr hyn sydd ei angen yw i’r rhai sy’n gyfrifol am ddiogelwch adeiladau i fyfyrio a thrin Grenfell fel maen prawf ym mhopeth a wnânt yn y dyfodol.”
Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddechrau llunio’r gwaith sydd angen i ni ei wneud gyda’n gilydd yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i ymateb fel sector a chyfle i aelodau bwrdd ystyried sut y gallant fynd â’r gwersi o’r adroddiad yn ôl i’w sefydliadau eu hunain.