Ein ffocws 2019–2022
Mae “Aros gartref!” yn ymadrodd a glywsom dro ar ôl tro yn ystod y pandemig. Ni chafodd ein cartrefi erioed gymaint o sylw. Maent wedi cynrychioli rhywle diogel, cysurus a saff i ddod drwy storm y pandemig. Rhywle oedd yn addasu i’r newid yn ein hanghenion. Rhywle wedi cysylltu gyda’n gwaith, addysg, mynediad i wasanaethau cyhoeddus a’n gilydd.
Nid yw ‘cartref’ erioed wedi golygu mawr. Ond nid felly y mae hi i bawb.
Mae gennym weledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.
Drwy ein buddsoddiad mewn cartrefi newydd a chartrefi presennol, rydym yn helpu i gryfhau economïau lleol: creu swyddi ansawdd da a chefnogi busnesau lleol drwy ein cadwyni cyflenwi.
Ar draws ein busnesau a’n cartrefi, ymdrechwn fod yn sector carbon isel – gostwng ein heffaith ar yr amgylchedd a bod yn rhagweithiol wrth geisio cyfleoedd i ostwng biliau ynni i denantiaid.
Drwy ddarparu tai cyfleus a thai â chymorth, offer cymorth, addasiadau a chymorth cysylltiedig â thai, rydym yn helpu i gynnig dewis gwirioneddol i bobl am ble maent yn byw. Rydym yn eu helpu i aros mor annibynnol ag sydd modd os yw eu hanghenion yn newid, yn agos at y bobl a’r lleoedd sydd bwysicaf iddynt. Mae ein haelodau sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol cofrestredig, yn cynnwys gofal preswyl a nyrsio, yn cynnig gofal ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y person pan na all pobl aros yn eu cartrefi eu hunain.
Rydym o ddifri am newid. Fel sefydliadau preifat annibynnol sy’n bodoli er y budd cyhoeddus, rydym ynddi hi am yr hirdymor. Gallwch ddarllen am ein syniadau diweddaraf ar gyfer newid yma.
Ein cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw galluogi ein haelodau i fod yn wych. Mae ein Cynllun Corfforaethol 2019-20 yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau sydd yn bwysig iddynt.
Mae hyn yn cynnwys:
Dylanwadu ar amgylchedd gweithredu ein haelodau:
Mae ein haelodau yn sefydliadau annibynnol, nid-er-elw sy’n ymdrechu i ddarparu tai fforddiadwy i ateb y galw gan fuddsoddi mewn cymunedau. Ein gwaith yw sicrhau fod hyn yn parhau. Mae amgylchedd gweithredu ffafriol yn rhoi sicrwydd, yn gostwng risg ac yn cynyddu’r cyfleoedd i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru.
Dweud stori’r sector:
Bydd dweud stori rymus yn bwysig os yw tai i barhau’n flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth. Bydd stori rymus hefyd yn denu staff ac aelodau bwrdd i weithio i gymdeithasau tai, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r effaith y gall tai da ei chael a lleoli’r sector fel partner dibynadwy ac uchel ei barch.
Paratoi aelodau i fod yn barod ar gyfer y dyfodol:
Os ydym i gyflawni gweledigaeth o ‘Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb’, ni fydd busnes fel arfer yn ddigon. I fod yn barod ar gyfer y dyfodol, rydym angen ffyrdd newydd o feddwl a ffyrdd newydd o weithio. Mae ein haelodau yn barod ar gyfer yr her a rydym wedi gweld awydd gwirioneddol i gydweithio i sicrhau ein fod yn sector blaengar, deinamig.
Darparu gwasanaethau rhagorol i aelodau:
Rydym yn bodoli i gefnogi ein haelodau gwych. Mae angen i’n gwasanaethau fod yn berthnasol, ychwanegu gwerth a’u cefnogi i wneud eu swydd. Mae angen iddynt hefyd fod yn werth ardderchog am arian. Mae ein gweithgaredd masnachol, sy’n cynnwys nawdd, arddangosfeydd, aelodaeth fasnachol a phartneriaethau yn ein galluogi i wneud hyd yn oed fwy. Mae hyn yn ffrwd incwm pwysig i ni a byddwn hefyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n partneriaid masnachol.
Rhedeg sefydliad aelodau gwych:
Mae’n hollbwysig creu sefydliad mwy dyfeisgar sy’n darparu gwasanaethau rhagorol i aelodau yn y ffordd fwyaf effeithol ac effeithlon os ydym i gyflawni ein nodau strategol.
Rhoddir sylw i aelodau o gymdeithasau tai Taf, Rhondda, Newydd, Pobl a Linc yn ein ffilm sy’n dweud stori ein Cynllun Corfforaethol 2019 – 2022.