Jump to content

Rheoli Perfformiad ac Absenoldeb mewn Byd Rhithiol | 23 Mehefin 2021

Roedd y sesiwn yma yn rhan o’r Gyfres Cyfraith Cyflogaeth a gaiff ei rhedeg gan CHC mewn partneriaeth gyda Hugh James i helpu timau Adnoddau Dynol a rheolwyr llinell i baratoi’n dda i fynd i’r afael ag elfennau pobl rheoli pobl sy’n debygol o ddod i’r amlwg yn y blynyddoedd nesaf.

Yn y sesiwn yma, ymchwiliodd Louise Price a Kate Walsh o Hugh James Solicitors sut y gall rheolwyr ymgysylltu’n effeithlon gyda’u timau mewn byd rhithwir. Trafodwyd sut y gall rheolwyr drin materion rheoli perfformiad mewn ffordd sensitif a soniwyd am y gwahanol ddulliau a chynlluniau a ddefnyddiwyd gan sefydliadau i gynnig cefnogaeth i gydweithwyr sy’n teimlo’n ynysig neu sy’n cael trafferthion gyda gweithio o bell.