Jump to content

Chwythu’r Chwiban – beth sydd angen i chi wybod | 17 Tachwedd 2021

Roedd y sesiwn yma yn rhan o’r Gyfres Cyfraith Cyflogaeth a gaiff ei rhedeg gan CHC mewn partneriaeth gyda Hugh James i helpu timau Adnoddau Dynol a rheolwyr llinell i baratoi’n dda i fynd i’r afael ag elfennau pobl rheoli pobl sy’n debygol o ddod i’r amlwg yn y blynyddoedd nesaf.

Yn y sesiwn yma, bu Christine Bradbury ac Eleanor Bamber, ill dwy yn Uwch Gymdeithion yn nhîm Gwasanaethau Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol Hugh James, yn trafod y ddeddfwriaeth sy’n sylfaen i’r diogeliad a roddir i’r rhai sy’n chwythu’r chwiban a chyngor pragmatig i gyflogwyr a all gael eu hunain mewn sefyllfa lle yr honnir y gwnaed datgeliadau gwarchodedig. Fe wnaethant hefyd rannu astudiaeth achos ffugiannol i ddod â hyn yn fyw.