Jump to content

Dod yn bartner masnachol

Mae ein partneriaid masnachol yn rhanddeiliaid allweddol ar gyfer y sector tai yng Nghymru. Maent yn dangos eu cefnogaeth a’u hymroddiad i adeiladu perthynas gref a pharhaus gyda chymdeithasau tai ac yn rhannu ein gweledigaeth o ‘Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb’.

A collage of three images depicting delegates talking to exhibitors, fellow delegates and speakers at the last three CHC conferences

Sut mae’n gweithio?

Rydym wedi datblygu cynnig newydd ar gyfer Partneriaid Masnachol drwy ymgynghori gyda chymdeithasau tai ac aelodau masnachol blaenorol. Cynlluniwyd y pecyn newydd yn ofalus i ddiwallu anghenion aelodau masnachol a hefyd gymdeithasau tai.

Fel partner masnachol, byddech yn rhan o grŵp bach o sefydliadau brwdfrydig sydd â chyfle i ddatblygu perthynas agosach gyda’r sector tai yng Nghymru.

Os hoffech ymuno â’r saith sefydliad sydd eisoes yn rhan o’r rhaglen a dod yn un o bartneriaid masnachol CHC o 1 Ebrill 2024, anfonwch Ddatganiad Diddordeb atom os gwelwch yn dda. Caiff datganiadau eu derbyn tan 12 Ionawr 2024.

Pam bod yn bartner i ni?

Nid dim ond partneriaeth gyda CHC yw hyn, mae’n adeiladu partneriaeth gyda’r sector tai yng Nghymru.

Rydym yn borth i Gymdeithasau Tai yng Nghymru. Rydym yn cynrychioli ac yn cefnogi 35 Cymdeithas Tai ar draws Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb’.
Rydym yn arbenigwyr yn sector tai Cymru, cefnogwn ein haelodau a’n partneriaid o amgylch polisi, lobio, ymgyrchoedd ac eiriolaeth. Rydym yn arbenigwyr dibynadwy ym mhob agwedd o dai Cymru.
Mae ein haelodau yn darparu dros 165,000 o gartrefi i 10% o boblogaeth Cymru, gan gyflogi tua 11,000 o bobl a gyda throsiant cyfunol o dros £1.1 biliwn y flwyddyn.
Mae ein haelodau mewn cysylltiad agos gyda’n cynnig dros y flwyddyn – yn cynnwys cynadleddau, sesiynau gwybodaeth, hyfforddiant a gweminarau.
Mae gennym fynediad i uwch wneuthurwyr penderfyniadau, tebyg i brif weithredwyr, aelodau bwrdd, cyfarwyddwyr a phenaethiaid gwasanaeth o fewn y diwydiant gyda dros 3,000 o uwch arweinwyr yn gweithio gyda ni bob blwyddyn.
Mae ein haelodau yn sefydliadau annibynnol, dim-er-elw sy’n cyflwyno gwasanaethau hanfodol ac yn darparu tai fforddiadwy ar draws Cymru – mae cefnogi’r sector yn cefnogi Cymru.

Key Contact

Louise Price-David
Head of Membership and Partnerships
Email: louise-price-david@chcymru.org.uk