Gyda chymdeithasau tai eisoes wedi cyflenwi dros 170,000 o gartrefi a 75% o’r cartrefi fforddiadwy ychwanegol yn nhymor hwn y Senedd, mae’r sector yn barod i gyflawni ar gyfer cymunedau ledled Cymru.
Tu ôl i bob pennawd am yr argyfwng tai, mae datrysiadau parod i’w rhoi ar waith.
Rydym angen gweithredu cadarn a hirdymor os ydym i adeiladu ar y cynnydd hyd yma a rhoi diwedd ar yr argyfwng tai.
Fel rhan o’n hymgyrch dros newid, Cartrefi: Ar Gyfer Pob Dyfodol, rydym yn galw ar y llywodraeth nesaf i gymryd camau gweithredu penderfynol a lansio Corfforaeth Ddatblygu Genedlaethol a all weithredu ar draws daliadaethau tai i ddatgloi, galluogi a chynyddu darpariaeth cartrefi yng Nghymru.
Lawrlwytho