Jump to content

Dadansoddiad CHC: Pobl Ifanc Nad Ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant

Mae sectorau adeiladu ac ôl-osod Cymru yn wynebu trobwynt allweddol sy’n bygwth ein gallu i gyflawni’r tai fforddiadwy y mae ar Gymru eu hangen. 

Ar yr un pryd mae Cymru yn profi cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl ifanc sy’n ymddieithrio. Cynyddodd y gyfran o bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET) i 17% yn y flwyddyn yn dod i ben yn Rhagfyr 2025, tra bod yr amcangyfrif o nifer y bobl ifanc oedd yn NEET wedi cynyddu i 56,800 yn 2025 o 38,300 yn 2024 – cynnydd rhyfeddol o 48.3%. 

Gyda mwy o grefftwyr yn gadael y diwydiant nag sy’n ymuno ag o, mae perygl y bydd hyn yn gwaethygu’r argyfwng tai - gan gryfhau’r effaith y mae prinder tai cymdeithasol yn ei gael ar iechyd, cyfoeth a chyfleoedd bywyd ar draws ein cenedl. 

Ond mae hyn yn gyfle hefyd. Trwy gysoni ein nodau tai â strategaeth sgiliau ddewr, gallwn droi argyfwng cenedlaethol yn don o gyfle i’r degau o filoedd o bobl ifanc NEET yng Nghymru. 

Gall Strategaeth Sgiliau Adeiladu Genedlaethol gysoni cyfraniad economaidd cymdeithasau tai a’u darpariaeth hyfforddiant gyda gallu’r sector Addysg Bellach a’r gadwyn gyflenwi breifat, gan roi sicrwydd tymor hir a map clir i symud allan o argyfwng tai i gyfnod o adfer.