Am beth mae ymgyrch ‘Dyma’r Sector Tai’?
Lansiwyd yr ymgyrch yn 2019 gyda’r nod o hyrwyddo’r cyfleoedd a’r gyrfaoedd sydd gan y sector tai cymdeithasol i’w cynnig ac i ddenu’r talent ddisgleiriaf a gorau i’r sector.
Mae’r sector tai yn ddeinamig ac uchelgeisiol ac mae’r ymgyrch yn dweud stori pobl sy’n gweithio mewn cymdeithasau tai ledled Cymru am y gwahanol swyddi sydd ar gael.
Pa wahaniaeth wnaeth yr ymgyrch?
Ers ei lansio, mae’r ymgyrch wedi ysgogi dros XXX edrychiad tudalen gyda YYY o gliciau wedyn Swyddi Tai Cymru a thudalennau gyrfaoedd y cymdeithasau tai eu hunain.
Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?
Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch yma.
Sut y gallaf cymryd rhan?
Cymdeithasau Tai:
- llofnodi ymrwymiad ‘Dyma’r Sector Tai’ ac ymrwymo eich sefydliad i gynhyrchu o leiaf un darn o gynnwys ar gyfer yr ymgyrch bob blwyddyn.
- cyfeirio at ‘Dyma’r Sector Tai’ ar eich gwefan, defnyddio #DymarSectorTai a thagio @ThisisHousing ar y cyfryngau cymdeithasol
- Gall timau cyfathrebu ac adnoddau dynol cymdeithasau tai ddefnyddio’r pecynnau adnodd arbennig i helpu gyda chefnogi’r ymgyrch
Partneriaid:
- gall asiantaethau recriwtio hefyd ddefnyddio adnoddau’r pecyn recriwtio i gefnogi gyda hysbysebu swyddi yn y sector tai cymdeithasol
- ein holi am gyfleoedd i gael sylw ar ein tudalen blogiau, yn sôn am brosiectau yr ydych wedi gweithio gyda nhw gyda chymdeithasau tai.