Jump to content

06 Rhagfyr 2022

Sut yr addasodd United Welsh ei wasanaethau cyngor arian i helpu tenantiaid i ymateb i heriau unigryw costau byws

Sut yr addasodd United Welsh ei wasanaethau cyngor arian i helpu tenantiaid i ymateb i heriau unigryw costau byws

Mae tenantiaid tai cymdeithasol ymhlith y rhai y mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio waethaf arnynt. Gyda biliau cartrefi wedi codi drwy gydol y flwyddyn, gwelodd tîm cyngor arian United Welsh fwy o bobl o’u cymunedau yn gofyn am help. Yma mae Karen Thomas, rheolwr cynhwysiant ariannol, yn ysgrifennu sut y gwnaethant ymateb i’r her drwy addasu i’r galw.

Mae tîm cyngor arian United Welsh wedi gweld gwahaniaeth mawr yn y cymorth y bu pobl ei angen yn y flwyddyn ariannol hon:

  • cynnydd o 42% mewn atgyfeiriadau yn chwarter cyntaf y flwyddyn, o gymharu gyda’r un cyfnod y llynedd;
  • adeg ysgrifennu hyn, roedd atgyfeiriadau i fanciau bwyd yn chwarter cyntaf eleni bron hanner y nifer a welsom ar gyfer 2021 i gyd;
  • mwy o bobl yn gofyn am help gyda dyledion;
  • roedd 47% o’n taliadau cronfa caledi yn ystod y flwyddyn ariannol hon (hyd ddiwedd mis Awst) ar gyfer cymorth gyda chostau cyfleustodau;
  • rydym eisoes wedi gwario bron 48% yn fwy ar daliadau caledi hyd yma eleni (diwedd mis Awst) nag ar gyfer yr un cyfnod y llynedd.

Awgrymodd arolwg YouGov (a gomisiynwyd gan abrdn Financial Fairness Trust) ymhlith tua 6,000 o bobl a gynhaliwyd rhwng 25 Mai a 6 Mehefin mai Cymru sydd wedi dioddef waethaf o’r argyfwng cyfredol mewn costau byw. Mae 22% o aelwydydd Cymru (o gymharu â 16% yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol) wedi defnyddio mesurau torri costau oherwydd fod cyflogau wedi methu’n cadw’n gydwastad gyda chyfradd chwyddiant – tebyg i ostwng ansawdd y bwyd y maent yn ei fwyta a gwerthu a gwystlo eiddo.

Ac nid yw’r diwedd yn y golwg. Fe wnaethom lwyddo i gadw ein lefelau ôl-ddyledion yn sefydlog yn ystod y pandemig er y moratoriwm ar droi pobl o’u cartrefi, dileu’r cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol a newidiadau eraill i fudd-daliadau – ond mae’r argyfyngau ariannol presennol yn ychwanegu pwysau sylweddol.

Roedd y setliad rhent a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn sylweddol is na chyfradd chwyddiant, felly bydd y cynnydd mewn costau yn sylweddol fwy nag unrhyw gynnydd mewn incwm ar gyfer United Welsh.

Wedyn gyda symud wedi’i reoli i’r Credyd Cynhwysol ar y gorwel, fydd angen llawer o adnoddau wrth i ni gefnogi pobl drwy’r broses, fel nad ydynt mewn risg o fwlch mewn budd-daliadau neu golli mesurau gwarchod trosiannol.

Rydym yn gweithio mewn cyfnod heriol (faint o weithiau ydyn ni wedi dweud hynny?) ond fel sector rydym wedi arfer addasu i ganfod ffordd trwodd.

Cynnydd o 42% mewn atgyfeiriadau yn chwarter cyntaf y flwyddyn, o gymharu gyda’r un cyfnod y llynedd

Yn United Welsh rydym wedi buddsoddi mwy o adnoddau i’r tîm cyngor arian ac ail-lunio’r gwasanaeth i greu dwy rôl swyddogion cynaliadwyedd. Mae ganddynt lawer llai o achosion na’r swyddogion rhent eraill er mwyn gallu cynnig gwasanaeth mwy dwfn – yn benodol gyda’r nod o osgoi achosion troi allan a chysylltu pobl sy’n ymwneud â’r achosion mwyaf cymhleth. Mae’r dull gweithredu hwn wedi profi’n llwyddiannus hyd yma, gyda 84% o achosion yn gweld gostyngiad yn eu hôl-ddyledion yn ystod chwarter cyntaf eleni, a 85% yn cymryd rhan weithgar.

Rydym wedi sefydlu cronfa caledi staff sydd wedi rhoi dyfarniad i 29 o bobl hyd yma (eto adeg ysgrifennu hyn) ac ehangu cylch gorchwyl y tîm i i gynnig cyngor dyled mewnol. Sicrhaodd hyn ddileu £17,000 o ddyledion i denantiaid yn chwarter cyntaf y flwyddyn ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn y tîm cyflogaeth i gefnogi tenantiaid i weithio i wella eu llesiant ariannol yn gadarnhaol.

Mae gostwng taliadau gwasanaeth yn parhau i fod yn ffocws prysur, a rydym yn gweithio gyda thenantiaid a’n his-gwmni atgyweiriadau Celtic Horizons i ddileu, gostwng neu ailgyflunio gwasanaethau megis glanhau, glanhau ffenestri a chynnal a chadw gerddi. Rydym wrthi yn dynodi stadau lle gellir ail-gynllunio ardaloedd wedi eu tirlunio i ostwng cynnal a chadw ac annog bioamrywiaeth a chraffu ar ddatblygiadau newydd i ddileu elfennau tâl gwasanaeth lle’n bosibl.

Wrth i ni ymateb i’r heriau sydd i ddod, mae angen llwybrau cyllido mwy blaengar a chydlynu polisi rhwng sectorau i drin yr achosion gwraidd sy’n gyrru tlodi. Er enghraifft, mae datgarboneiddio yn cyflwyno cyfle blaenllaw i wella amodau tai a chreu swyddi ar yr un pryd â mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Bydd yn hanfodol, cydweithio gyda rhanddeiliaid eraill wrth i ni geisio helpu pobl yn yr angen ariannol gwaethaf yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.