Jump to content

29 Medi 2022

Sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau ariannol a chynlluniau tlodi: sut mae ClwydAlyn yn cefnogi tenantiaid a staff drwy’r argyfwng costau byw

Sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau ariannol a chynlluniau tlodi: sut mae ClwydAlyn yn cefnogi tenantiaid a staff drwy’r argyfwng costau byw

Mae Clare Budden, Prif Weithredwr ClwydAlyn – a Chadeirydd Mudiad Gogledd Cymru 2025 – yn esbonio sut mae’r gymdeithas tai yn gweithio i ddiweddu anghydraddoldeb y gellir ei osgoi mewn iechyd yng Ngogledd Cymru

Yn yr un modd â llawer o gymunedau eraill bu’r Gogledd yn wynebau problemau difrifol megis tlodi, anghydraddoldeb iechyd a digartrefedd. Yn rhai o’r ardaloedd tlotaf mae disgwyliad oes wyth mlynedd yn is na’r cyfartaledd rhanbarthol, gyda disgwyliad bywyd iach tua 18 mlynedd yn is. Mae’r rhesymau am y gwahaniaethau hyn yn amrywiol a chymhleth ac nid ydynt yn rhywbeth y gall ClwydAlyn ei ddatrys ar ei ben ei hun – ond nid yw hynny’n golygu na allwn wneud rhywbeth.

Fel yr arweinydd mewn sefydliad, cewch gyfle i ddylanwadu a llunio blaenoriaethau’r busnes. Gan weithio gyda’r Bwrdd, staff a’n tenantiaid, fe wnaethom gytuno mai ein cenhadaeth ddylai fod i ‘gydweithio i drechu tlodi’. Gwyddom fod tlodi yn effeithio’n uniongyrchol ar lawer o’n tenantiaid, staff a’r cymunedau y gweithiwn gyda nhw. Roeddem eisoes ar y daith hon ond cafodd pethau eu gwaethygu ymhellach gan ffactorau allanol tebyg i Covid-19 a’r argyfwng mewn costau byw.

Rydym yn wynebu her enfawr, ac nid wyf yn bychanu’r hyn sydd o’n blaenau. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, buom yn trafod yn fewnol beth ddylai ein blaenoriaethau fod a’r dull y dylem ei gymryd i gefnogi ein preswylwyr, staff a’r busnes.

Ni fedrwn gael nod fawr am drin tlodi yn ein cymunedau ac yna anwybyddu ein staff a all fod yn byw mewn tlodi ein hunain. Mae gennym hefyd bwysau cynyddol ar ein cyllid, felly mae’n rhaid sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng buddsoddi yn ein gwaith yn erbyn tlodi ac ymdopi gyda’r blaenoriaethau ariannol sy’n aml yn gwrthdaro.

Gwyddom fod dull holistig sydd â’n preswylwyr a staff yn ganolog i unrhyw benderfyniadau yn teimlo fel yr ymagwedd gywir i ni a’n gwerthoedd. Ar y llaw arall, mae angen i ni ddiogelu’r busnes gan gydbwyso ein pwysau ariannol a rheoleiddiol cynyddol. Mae’n her enfawr; ai dilyn ein calon neu ein pen ddylem ni wneud? Y tebygrwydd yw y bydd yn gyfuniad o’r ddau.

Fel cyflogwr mae’n bwysig ein bod yn gofalu am ein staff, ac yn eu tro gwyddom y byddant hwythau yn cymryd gofal o’n tenantiaid. Rydym yn talu canolrif y farchnad i staff am eu gwaith; rydyn ni hefyd yn gyflogwr costau byw. Rydym wedi cynnal adolygiad o delerau ac amodau ar draws y sefydliad, gan alinio tair set wahanol o delerau ac amodau i sicrhau cydraddoldeb ar gyfer ein holl staff pa bynnag swydd a wnânt (yn cynnwys y tîm Gweithredol).

Fe wnaethom setlo’r adolygiad cyflogau ar gyfer staff eleni ym mis Ionawr (ac yn cysylltu cyflog gyda chynnydd rhenti). Erbyn mis Ebrill, roedd chwyddiant yn golygu fod ein staff yn wynebu toriad cyflog mewn gwir dermau, sy’n debygol o ddyfnhau wrth i gostau byw barhau i gynyddu.

Un o’r effeithiau a welsom eisoes yw mwy o staff yn gofyn am gael rhan o’u cyflog ymlaen llaw bob mis. Rydym yn prosesu taliadau goramser a threuliau yn fwy aml hefyd – yn hytrach nag unwaith y mis, rydym yn awr yn talu bob bythefnos.

Rydym wedi datblygu rhwydwaith cefnogaeth cryf i’n staff gyda mynediad i amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi llesiant. Mewn misoedd diweddar rydym hefyd wedi dechrau clywed mwy a mwy o straeon am staff yn mynd heb fwyd neu’n cyfyngu eu hunain i un pryd bwyd y dydd i arbed arian, tra bod eraill yn gweithio llawer o oriau goramser er mwyn gael deupen llinyn ynghyd. Mae hynny’n achosi pryder, ac roedd yn bwysig ein bod yn dod o hyd i ffordd i’w cefnogi.

Cawsom gyngor treth i weld sut y gallem gynyddu i’r eithaf unrhyw fuddion a ddarparwn ar gyfer staff. Fe wnaethom sefydlu cynllun ‘Bwyta’n Dda’ a chytuno drwy gynnig cinio am ddim i bawb y gallai staff fwyta’n iach a defnyddio’r arian y byddent wedi eu gwario ar ginio ar gyfer pethau eraill.

Buom yn gweithio gyda’n partner bwyd iach a menter gymdeithasol Well-Fed i ddarparu pryd poeth i staff bob tro y maent yn y gwaith. Mae’r hyn a ddechreuodd fel cynllun peilot ym mis Mai bellach wedi dod yn wasanaeth hanfodol, gyda staff o bob rhan o’r gymdeithas wedi bwyta tua 14,000 o brydau hyd yma. Rwy’n hapus i gadarnhau ein bod wedi ymrwymo i’r cynllun hwn tan o leiaf fis Ebrill 2023 ac yn ei gyllido drwy arbedion cost mewn rhannau eraill o’r busnes. Ond nid yw’n rhwydd dod o hyd i’r gyllideb ychwanegol wrth ochr y pwysau cynyddol ar ein cyllid.

Y peth gwych am hyn yw ei fod o fudd uniongyrchol i’n staff, gyda’r posibilrwydd o arbed £100 y mis i’n gweithwyr llawn-amser a hefyd roi bwyd da yn eu boliau. Bu’n llwyddiant enfawr a gwnaeth gymaint mwy na dim ond bwydo pobl. Daeth â phobl at ei gilydd ar gyfer cinio, pobl na fyddent fel arfer yn gweld unrhyw gydweithwyr drwy’r dydd oherwydd eu bod allan yn y fan. Mae peth o’r adborth wedi cyffwrdd y galon. Mae ein mannau bwyta yn awr yn brysur gyda staff yn mwynhau cinio gyda’i gilydd o amgylch y byrddau.

Mae model Well Fed yn bartneriaeth unigryw. Rydym yn rhoi gwarant incwm iddynt drwy brynu 2,500 o brydau yr wythnos ar gyfer ein cynlluniau Gofal Ychwanegol. Mae hyn yn eu galluogi i gyflogi tîm a all wneud llawer mwy o brydau gyda’r un adnodd pobl. Gellir wedyn ddarparu’r prydau rhatach hyn i bobl sy’n profi tlodi bwyd. Rydym hefyd yn rhoi cymorth grant o £100,000 y flwyddyn i ddarparu bwyd ar gyfer ein cymunedau mewn amrywiaeth o ddulliau. O brydau parod newydd eu paratoi a bagiau popty araf i flychau pryd arddull gyda chardiau rysetiau Hello Fresh.

Mae prif sbardunau digartrefedd ac afiechyd yn gysylltiedig â thlodi. Dyna pam yr helpais i sefydlu a chadeirio Mudiad 2025 yma yn y Gogledd, sy’n dod ynghyd ag ystod eang o arweinwyr ac ymarferwyr ar draws llywodraeth leol, tai, iechyd cyhoeddus ac addysg uwch, i gyd yn cydweithio’n wahanol a rhannu gwybodaeth ac adnoddau i gyflawni ein cenhadaeth – dileu anghydraddoldeb iechyd y gellir ei osgoi yn y gogledd erbyn 2025. I ganfod mwy am y gwaith y buom yn ei wneud ewch i’n gwefan yma.

Rwy’n benderfynol i wneud popeth a fedraf i ymgyrchu dros Gymru decach lle gall pawb fyw eu bywyd gydag urddas a dewis. Yn y cyfamser, bydd angen i gymdeithasau tai, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector weithio hyd yn oed yn well gyda’i gilydd i fynd i’r afael gystal ag y medrwn gydag effeithiau’r argyfwng.