Jump to content

20 Awst 2021

Senedd newydd, golwg o’r newydd ar bwysigrwydd Cartref!

Senedd newydd, golwg o’r newydd ar bwysigrwydd Cartref!

Cyn yr etholiadau i Senedd Cymru ym mis Mai 2021, amlinellodd ein maniffesto Cartref
beth ddylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer Llywodraeth Cymru yng
nghyswllt tai. Roeddem eisiau gweld buddsoddiad mewn tai ar gyfer
cenedlaethau’r dyfodol a fyddai’n golygu hwb i’r economi lleol, gwaith
ar y cyd ar heriau ar y cyd tebyg i ddigartrefedd a datgarboneiddio a
ffocws ar greu lleoedd a chartrefi y mae pobl eisiau byw ynddynt a lle
gallant ffynnu.


Mae Bryony Haynes yn edrych ar yr hyn a fu’n digwydd ers yr etholiadau hynny ym mis Mai:


“Mae wynebau newydd, brwydr gyson am sylw a gorlwyth gwybodaeth i gyd
yn nodweddion cyffredin o’r misoedd sy’n dilyn Senedd newydd ar gyfer
ei Haelodau newydd. Nid yw hyd yn oed yr ASau sy’n dychwelyd yn ddiogel,
gyda llawer o sefydliadau, yn ein cynnwys ni, yn ei ddefnyddio fel
cyfle i ailddweud eu straeon ac adeiladu ar berthnasoedd gwleidyddol.


“Gyda’r gefnlen swnllyd yma, fe wnaethom gynnal cyfres o sesiynau
briffio brecwast rhithiol ar gyfer Aelodau o’r Senedd, eu staff cymorth
gwleidyddol ac aelodau allweddol o staff y Senedd fel cyfres hygyrch a
defnyddiol o gyfleoedd i ddysgu am a gofyn cwestiynau am gymdeithasau
tai.


“Mae dweud stori cyfraniad cymdeithasau tai at yr heriau mawr sy’n
wynebu Cymru mewn ffordd sy’n torri drwy’r sŵn yn golygu rhywbeth i
wleidyddion ac yn adeiladu ymrwymiad yn eu mysg. Roeddem yn gwybod fod
angen i ni ddod â stori Cartref! yn fyw drwy roi sylw i waith gwych ein
haelodau a’n partneriaid cyflenwi – a gwneud yn siŵr mai nhw oedd yn
gwneud y rhan fwyaf o’r siarad”


Adferiad economi gwyrdd


“Dechreuodd y gyfres gyda Bethan Proctor, Rheolydd Polisi a Materion
Allanol CHC yn gosod y llwyfan am gyfraniad cymdeithasau tai i Gymru
werdd a llewyrchus. Datblygodd Eurgain Powell o swyddfa Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol y syniad hwn ymhellach, gyda manylion penodol am y
sgiliau sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio’r stoc tai
cymdeithasol.


“Roedd grym y sesiwn yn amlwg wrth ddangos cynlluniau cyflogaeth drwy
eirda gan Creu Menter Cartrefi Conwy a phrofiad tenantiaid drwy waith
yr Electoral Reform Society a chymdeithasau tai gyda Chynulliad Hinsawdd
Blaenau Gwent.


“Ynghyd â staff ymchwil, roedd y sgwrs rhwng ein panelwyr a Janet
Finch-Saunders AS o Geidwadwyr Cymru yn neilltuol o werth chweil. Gellir
gweld hynny yn ei chwestiwn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru
ychydig wythnosau yn ddiweddarach ar gynlluniau i gyflwyno fframwaith
cyllido hirdymor i gefnogi gweithgaredd ôl-osod ar gyfer tai
cymdeithasol ledled Cymru.”


Iechyd


“Yng nghyd-destun y pandemig, nid yw’n syndod mai ein sesiwn ar
iechyd oedd yr un gyda’r nifer fwyaf yn mynychu, gyda chydbwysedd o
Aelodau’r Senedd a staff ar draws y pleidiau gwleidyddol.


“Agorodd Conffederasiwn GIG Cymru y sesiwn drwy amlinellu rôl tai
wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd. Roedd grym y profiadau
rheng-flaen yn amlwg iawn yn y sesiwn gan Gymdeithas Tai Cymuned
Caerdydd, ClwydAlyn a Newydd, gyda Jane Dodds AS yn dweud yn agored pa
mor rymus oedd eu cyfraniadau.


“Roedd yn galonogol gweld angerdd Aelodau o’r Senedd yn y sesiwn yma,
yn arbennig yng nghyswllt eu profiadau eu hunain. Rhoddodd Altaf
Hussain AS rywbeth i ni gnoi cil arno wrth ddatblygu ein syniadau
ymhellach ar y cysylltiad cryf rhwng tlodi, iechyd a thai, a’r cyswllt
rhwng y meysydd gwaith hyn. Er y cafodd amrywiaeth o faterion
cymdeithasol ac iechyd corfforol eu trafod, manteisiodd Jenny Rathbone
AS ar y cyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl – yn arbennig
yng nghyswllt gofodau awyr agored.


“Gyda’r cynnig o gefnogaeth barhaus gan yr Aelodau o’r Senedd yma,
mae’n bendant lawer o sgyrsiau dilyn lan i’w cael o’r sesiynau a all ein
helpu i feithrin ymrwymiad gwleidyddol at gyfraniad tai i iechyd.”


Digartrefedd


“Gan ddod â’r gyfres tri rhan i ben, fe wnaeth y sesiwn digartrefedd
yn bendant ddod â’r manylion – mae gan y sector gymaint o brofiad i’w
rannu, yn arbennig o weithio partneriaeth drwy’r pandemig. Gan drin y
mater sydd ar agenda llawer o Aelodau’r Senedd ar hyn o bryd, dechreuodd
Shelter Cymru drwy esbonio effeithiau achosion troi allan sy’n
datblygu’n ddigartrefedd a sut y maent yn gweithio gyda chymdeithasau
tai i oresgyn y rhwystrau.


“Ymchwiliodd Justin Wigmore o Cartrefi Melin i fanylion cytundebau
tai cydfuddiannol i atal achosion trai allan rhag datblygu’n
ddigartrefedd, tra dangosodd Cymdeithas Tai Sir Fynwy eu partneriaethau
lleol wrth fynd i’r afael â digartrefedd.


“Roedd yn wych gweld Jane Dodds AS yn ôl, oedd wedi ei symud unwaith
eto gan brofiad tenantiaid. Yn yr achos hwn, ffilm a ddangoswyd gan
Cartrefi Conwy o effaith dyraniadau tai, yn seiliedig ar deulu penodol.


“Gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn amlwg ym mhob un o’n tri
briffiad brecwast, mae stori Cartref! yn parhau i esblygu drwy ddechrau
tymor newydd y Senedd. Byddwn yn parhau’r gyfres yn yr hydref gyda golwg
ar faterion tebyg i fforddiadwyedd a chyflenwad.


“Fe wnaeth ymgyrch maniffesto Cartref! lwyddo i sicrhau fod tai wrth
ganol uchelgeisiau’r llywodraeth newydd ar gyfer Cymru, ond mae’r gwaith
i sicrhau fod y gefnogaeth wleidyddol gennym i gyflawni hyn yn
ymarferol yn parhau.


“Yn yr wythnosau a misoedd i ddod, byddwn hefyd yn adnewyddu ein
cefnogaeth ac adnoddau cysylltiedig i gymdeithasau tai i feithrin
cysylltiadau cadarnhaol, parhaus gydag Aelodau o’r Senedd. Mwy ar hynny
yn fuan. Bydd gan ein Cynhadledd Enw Da a Pherthnasoedd
hefyd ffocws ar sut a pham i ddylanwadu ar berthnasoedd gwleidyddol,
gan sicrhau fod ein haelodau o amgylch y byrddau gywir mewn gwneud
penderfyniadau strategol.”