Jump to content

20 Ionawr 2017

Mynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy yng Nghymru

Mae arbenigwyr o bob rhan o Ewrop yn galw am weithredu i fynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy mewn rhannau gwledig o Ewrop.

Mae'r gynhadledd ddydd ym Mhowys hefyd yn trafod pwysigrwydd creu a chynnal swyddi lleol os yw cymunedau cefn gwlad i ffynnu.

Trefnir y digwyddiad gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) ac un o'r siaradwyr yw Sorcha Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol Housing Ewrop - ffederasiwn Ewropeaidd sefydliadau tai cyhoeddus, cydweithredol a chymdeithasol, sydd rhyngddynt yn rheoli mwy na 26 miliwn o gartrefi.

"Mae oedolion ifanc ledled Cymru a gweddill tir mawr Ewrop yn ei chael yn anodd iawn prynu eu cartref cyntaf. Dyna pam i Housing Ewruope lansio Cartrefi i Bawb yn 2015 i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy mewn cymunedau hyfyw. Mae'n ymgyrch Ewrop-gyfan yn galw am weithredu a chydweithio rhwng sefydliadau gwleidyddol ac ariannol, gwledydd, awdurdodau lleol a darparwyr tai.

Mae'n gam pwysig ymlaen gan fod angen enfawr i 'adeiladu a thrawsnewid cartrefi' i ddatrys anghenion tai presennol ac anghenion tai y dyfodol. Mae'r angen i liniaru tlodi tanwydd a chynyddu effeithiolrwydd hefyd yn fater o frys mawr", meddai Sorcha Edwards.

Amcangyfrifir fod 70,000 o bobl o, tua 31% o denantiaid tai cymdeithasol, yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd a bydd Dr Glen Peters yn defnyddio'r gynhadledd i herio eraill i ddilyn ei esiampl drwy geisio gwneud rhywbeth amdano.

Ef yw Prif Weithredydd Western Solar sydd wedi adeiladu chwe chartref Pentre Solar yng nghefn gwlad Sir Benfro. Mae'r cartrefi, sydd ar rent 20% yn is na chyfradd y farchnad, hefyd yn rhad eu twymo a'u rhedeg.

"Nid ydynt yn ddim drutach i'w hadeiladu nag thai traddodiadol. Fodd bynnag mae ganddynt 11 modfedd o insiwleiddiad ac yn defnyddio 12% o ynni cartref traddodiadol, fydd yn arbed mwy na £1,000 y flwyddyn i denantiaid ar eu biliau ynni arferol.

Roedd y datblygiad hefyd o fudd i'r economi lleol gyda chreu sgiliau a swyddi newydd, a chadwyd tua 60c ym mhob £1 a wariwyd yn yr ardal.

Fe wnaethom feiddio herio'r norm, arloesi a chymryd cyfle a byddwn yn herio eraill yn y gynhadledd i wneud yr un fath," meddai Dr Peters, a fu'n siarad yng nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yn Marrakesh fis Tachwedd diwethaf.

Mae gan Grŵp Cynefin fwy na 4,500 o gartrefi yng Ngogledd Cymru, llawer ohonynt mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, eu bod yn bendant yn iawn yn ystyried bod eu rôl yn ymwneud â mwy na brics a morter.

"Rydym yn cymryd rhan yn gyson mewn prosiectau i helpu diogelu cymunedau. Er enghraifft, rydym yn cefnogi grŵp yng Nghynwyd, ger Corwen, sydd eisiau prynu eu siop leol. Os yw'r cynllun yn methu, byddai'r preswylwyr yn gorfod teithio cryn bellter i gael mynediad i wasanaethau sylfaenol a byddai diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn gadael y pentref yn ynysig.

Ym Motwnnog, pentref gwledig ym Mhen Llŷn, fe wnaethom ddatblygu 12 cartref a chanolfan fenter gyfagos, Canolfan Fenter Congl Meinciau. Mae'r ganolfan yn rhoi cyfleoedd swyddi a chyfleusterau modern o'r math diweddaraf ar gyfer busnesau lleol, fel y gallant eu rhedeg o'u cymuned leol, heb orfod symud eu safle a'u swyddi allan o'r ardal," meddai Walis George.

Mae un o'r busnesau hyn yn gwneud iogwrt a phwdinau a gwerthir eu cynnyrch mewn archfarchnadoedd blaenllaw yn ogystal ag mewn cadwyni tafarndai cenedlaethol ac ysbytai yng Nghymru.

Mae'r cwmni wedi creu swyddi i ddeg o bobl a dywedodd Lynne King na fyddai wedi parhau i dyfu ei brand newydd Daffodil Foods heb adnoddau'r ganolfan.

Dywedodd Lynne King: "Roedd gen i angen dybryd am fwy o ofod. Fy unig ddewis arall oedd symud Daffodil Foods i Bwllheli a chymryd lle uwchben siop, ac nid dyna oeddwn ei eisiau.

"Mae Congl Meinciau yn adeilad modern braf mewn lleoliad tawel. Mae ganddo fand eang cyflym iawn a gallwch barcio am ddim."

Cynhelir Cynhadledd Tai Gwledig CHC - Datrysiadau Tai Gwledig Arloesol - ddydd Iau 26 Ionawr yng Ngwesty Metropole, Llandrindod.