Jump to content

09 Mawrth 2021

Gwneud synnwyr o effaith y pandemig

Gwneud synnwyr o effaith y pandemig

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn rhan o’r Bartneriaeth Dysgu Fyw,
cywaith o 10 sefydliad sy’n defnyddio Sensemaker i geisio gwneud
synnwyr o effaith y pandemig ar ein cydweithwyr a’n sefydliadau.


Yr wythnos ddiwethaf fe wnaethom gyhoeddi dadansoddiad o’r straeon a gasglwyd hyd at ddiwedd mis Ionawr 2021.


Cafodd y data ei ddadansoddi gan Janine Dube, Linc Cymru, Michael
Hughes, Tai Sir Fynwy, Chris Jowitt, Cartrefi Melin, Bennett McVeigh,
Tai Newydd a Robert Needham, Tai Teulu ynghyd â Michael Muthukrishna o
Ysgol Economeg Llundain.


Mae Janine, Partner Busnes – Data a Deallusrwydd Busnes yn Linc yn edrych ar y canfyddiadau i ni:


Beth mae’r straeon yn ei ddweud wrthym?


Fel sector buom yn peilota Sensemaker ers mis Gorffennaf a’n gwelodd
drwy dri cyfnod glo. Bu gennyf ddiddordeb mawr yn yr iaith y mae pobl yn
ei defnyddio i ddweud eu straeon, a sut y newidiodd hyn yn ystod y
pandemig.


Mae’r tôn ar draws y ddau gyfnod* wedi parhau’n gymharol debyg, ond
ar gyfer yr ail gyfnod mae straeon ‘cadarnhaol iawn’ a ‘cadarnhaol’
gyda’i gilydd wedi gostwng o 54% i 46%. Roedd ‘negyddol iawn’ a
‘negyddol’ gyda’i gilydd wedi parhau ar 30%, fodd bynnag mae straeon
‘negyddol iawn’ wedi ennill tir ar y straeon ‘negyddol’.


Cynyddodd straeon niwtral o 11% i 13%. Dywedodd y dadansoddwyr ei bod
yn anodd penderfynu os oedd y straeon yn wirioneddol niwtral, gan fod
ychydig o faterion cadarnhaol a negyddol o fewn y straeon, fodd bynnag
roedd symud tuag at y negyddol yn gyffredinol yn yr ail gyfnod gyda
phesimistiaeth am effeithiau hirdymor ac anawsterau gweithio gartref.


Cadarnhaol Iawn/Cadarnhaol


Roedd straeon yr ail gyfnod yn canolbwyntio ar newid mewn agweddau
tuag at waith; yn benodol, hyblygrwydd am batrymau gwaith a’r newid mewn
pwyslais o waith fod yn ‘rhywle yr ydych yn mynd iddo’ i ‘rhywbeth a
wnewch’.


“Ffordd newydd i drefnu a rhedeg busnesau heb y dybiaeth fod yn
rhaid i ni gyd eistedd yn yr un lle (swyddfa) er mwyn gweithredu’n
effeithlon fel tîm neu grŵp.


Ei bod yn bosibl datblygu a thyfu perthynas broffesiynol rhyngbersonol drwy dechnoleg cynadleddau fideo.”


Roedd gwelliannau i iechyd meddwl a llesiant hefyd yn thema gyson
gyda rhai a roddodd straeon yn teimlo’n fwy hapus a/neu y cafodd
newidiadau eu gwneud oherwydd y cafodd yr ymateb i’r pandemig effaith
gadarnhaol ar wahanol agweddau o’u bywydau.


“Mae gweithio gartref yn gweithio! Mae pobl yn gynhyrchiol ac yn hapusach.”


Mae hyn yn parhau yn debyg i’r cyfnod cyntaf ond gydag ychydig mwy o
bwyslais ar ‘fywyd gwaith’ yn hytrach na gweithgareddau allgwriciwlaidd.
Gallai hyn fod yn wir am nifer o resymau yn cynnwys mwy o gyfyngiadau
cyfnodau clo a newid mewn tymhorau i Haf/Hydref i Hydref/Gaeaf rhwng
cyfnodau.


“Cwmnïau i alluogi eu staff i gael yr hyblygrwydd i weithio
gartref i sicrhau eu bod yn sicrhau cydbwysedd gwaith/bywyd. Drwy gael
hyn rwyf yn fwy rhagweithiol ac mae fy iechyd wedi gwella. Rwy’n teimlo
dan lai o straen.”


Roedd ymatebion yr ail gyfnod yn bennaf yn fyrrach ac yn fwy ystyriol
gyda mwy o ddefnydd o’r amser gorffennol, gydag ymadroddion tebyg i
‘rwyf wedi’ neu ‘fe wnaethon ni ..’, mae’r iaith hefyd yn feddalach ac
yn llai dwys gan fod yn wahanol i derminoleg ‘rwyf i’ a ‘fe fyddwn ni’
yn y cyfnod cyntaf oedd hefyd â mwy o ymdeimlad o frys – bron yn
ymatebion o fath ymladd tân.


Straeon Negyddol Iawn/Negyddol


Diffyg cysylltiad mewn-person gyda chydweithwyr a thenantiaid, aros
am ymatebion a diffyg ffiniau rhwng gwaith/cartref oedd y prif themâu a
welwyd yma. Mae llai o sôn am yr effaith negyddol ar iechyd meddwl a
llesiant, er ei bod yn ddi-os y bydd y materion y soniwyd amdanynt yn
cael effaith ar iechyd a llesiant meddwl.


“Mae’n anodd nawr i benderfynu pryd mae’r diwrnod gwaith yn
dechrau ac yn gorffen. Fy ngofod gwaith yw hefyd y lle’r wyf yn bwyta,
cysgu a mwynhau ymlacio – felly mae’r diffyg ffiniau hwn wedi dechrau
dod yn broblem.”


Cynyddodd nifer y straeon negyddol iawn o 5% i 11%. Mae ymdeimlad o
besimistiaeth gyda theitlau stori fel ‘realaeth newydd lwm’, ‘unigrwydd’
a diffyg cysylltiad wyneb-i-wyneb gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr
yn cael effaith go iawn.


Mae straeon negyddol neu negyddol iawn am waith yn canolbwyntio ar
ymyrryd ar brosesau, diffyg ymatebion neu ymatebion hwyr, gyda phryder
cynyddol am effaith hirdymor bod yn ffisegol i ffwrdd o gydweithwyr yn
arwain at chwalfa mewn perthnasoedd proffesiynol.


“Rwy’n cael pethau yn llawer iawn mwy anodd mewn rhai meysydd o
fy ngwaith oherwydd mod i drwy’r amser am ymatebion gan bobl eraill”


“Dod yn gynyddol rwystredig gyda phobl heb fod yn ymateb i
faterion drwy e-bost, heb fod yn ymateb i ddilyn lan a methu mynd i
siarad gyda nhw wyneb i wyneb.”


Ac felly beth…… ?


Mae llawer i rannu a dysgu a chafodd y canfyddiadau eu cylchredeg drwy’r Bartneriaeth Dysgu Fyw.


Yn fy swydd rwy’n ymwneud yn bennaf â data meintiol ac roedd yn
ddidorol hefyd edrych ar ddata ansoddol yn yr ymarferiad hwn oherwydd
bod y straeon dynol yn ychwanegu gwybodaeth gyfoethog yr wyf yn amheus y
byddem wedi ei chael drwy’r rhifau yn unig. Mae’r ddyfais yma wedi
gwneud i mi ailfeddwl a gofyn cwestiynau am yr hyn y gallai’r data
ansoddol a ddadansoddaf ar sail dydd-i-ddydd fod yn ei golli. Mae’r
gwaith hwn wedi fy helpu i werthfawrogi pwysigrwydd y straeon dynol tu
ôl i’r rhifau.


Ewch i’n porth i ddweud eich stori.


*Cyfnod un: Gorffennaf 2020 – Hydref 2020


Cyfnod dau: Tachwedd 2021 – Ionawr 2021 (sy’n cynnwys rhan o Gyfnod
Glo Byr Cymru a’r cyfnod clo a ddaeth i rym ar 19 Rhagfyr oedd yn dal
mewn grym adeg y dadansoddiad hwn).


Os gwnaethoch golli’r lansiad, gallwch ei weld yma: https://www.youtube.com/watch?v=FfrK6Id0n6g


Mae’r Bartneriaeth Dysgu fyw yn cynnwys:


  • Sefydliad Materion Cymreig (IWA)

  • Canolfan Cydweithredol Cymru (WCC)

  • Busnes yn y Gymuned (BITC)

  • Ysgol Fusnes Caerdydd (Prifysgol Caerdydd)

  • Fforwm Gofal Cymru

  • Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC)

  • Cymorth Cymru

  • Tîm Cefnogaeth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST)

  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

  • Y Lab (Prifysgol Caerdydd/Nesta)