Cynllun gwirfoddoli Hugh James
Mae Hugh James, ein haelod masnachol a fu’n cefnogi’r sector
am dros 40 mlynedd, wedi sefydlu cynghrair gwirfoddoli gyda
chymdeithasau tai yng Nghymru. Dyma Emma Poole, Rheolwr Perthynas
Cleientiaid Hugh James, yn dweud ei stori am sut y daeth eu cyfraniad
diweddaraf at werth cymdeithasol i fod a sut y gall cymdeithasau tai
gymryd rhan yn y prosiect.
“Mae gan Hugh James enw da am gysylltiadau cryf yn y sector ac roedd
croesawu ein cleientiaid i’n gofod digwyddiadau newydd yn y Sgwâr
Canolog yn wych. Os gofynnwch i unrhyw gyfreithiwr sy’n dechrau gweithio
gyda’r sector tai cymdeithasol, maent yn sôn yn aml am yr awyrgylch
gynnes ac agos atoch y mae’r bobl sy’n gysylltiedig yn ei chreu ac maent
bob amser yn frwd i ymuno â’r criw.
Mae cleientiaid hefyd yn cytuno mai un o fanteision mynychu unrhyw
ddigwyddiad cysylltiedig â gwaith gyda Cartrefi Cymunedol Cymru neu Hugh
James yw’r sgwrs anffurfiol wrth aros am goffi neu’r sgwrs “rhoi’r byd
yn ei le” yn hwyr y nos yn Llandrindod a all ffurfio sylfaen rhai o’r
partneriaethau gorau. A ellir byth yn wir atgynhyrchu’r rhain yn
ddigonol drwy sgrin?
Yn ffodus i gyfreithwyr, bu modd trosglwyddo llawer o’n gwaith i’r
byd rhithiol a dros y 16 mis diwethaf mae ein timau ni a hefyd y
gweithwyr proffesiynol mewn cymdeithasau tai wedi ymateb yn rhagorol i’r
her, gan barhau i negodi contractau, delio gydag ymgyfreitha a
chytundebau ar lein. Fodd bynnag, rwy’n credu y byddem i gyd yn cytuno y
cafodd rhywbeth ei golli yn y ddibyniaeth drom honno ar amser sgrin,
sef diffyg cyswllt personol a chreadigrwydd.
Mae aelodau wedi dweud wrthym yn aml faint maent yn gwerthfawrogi
gallu ein cyfreithwyr i feddwl tu allan i’r blwch a chanfod ffordd drwy
fater anodd felly credem ei bod yn amser mynd at hyn mewn ffordd debyg,
yn edrych am ennill-ennill. Sut fedrem ni helpu aelodau i ddatrys
problem sydd ganddynt, cael sgwrs wyneb i wyneb gyda nhw a deall yn well
beth sy’n mynd ymlaen yn eu byd, gan bob amser gydymffurfio â thirlun
canllawiau pellter cymdeithasol oedd yn newid yn barhaus?
Fel sy’n wir mor aml, roedd yr ateb yn syml iawn mewn gwirionedd.
Drwy gydol y pandemig, mae’r cwmni wedi mynd ati i gyfarch llesiant
staff ac annog gweithwyr i gymryd camau tuag at arferion iach megis mynd
i’r awyr agored, rhoi amser i sgwrsio gyda ffrind, helpu cymydog neu’r
gymuned yn ehangach. Roedd hyn yn yr un modd yn her i’r cymdeithasau tai
sy’n gleientiaid i ni, oedd eisiau gofalu am eu staff ond oedd hefyd â
rhestr gynyddol o brosiectau budd cymunedol y bu’n rhaid eu gohirio
oherwydd eu bod yn y categori “dianghenrhaid” ar gyfer rheoliadau Covid.
Drwy gydweithio, gallem fynd ati i edrych ar amrywiaeth o wahanol
anghenion.
Yn Hugh James, mae pob un o’n 700 o staff yn cael diwrnod ar gyflog i
wneud gweithgaredd gwirfoddoli yn y gymuned. Mae’n rhwydd iawn i hyn
lithro drwy’r rhwyd oherwydd gofynion amserlenni gwaith cyfreithiol ond
bydd unrhyw un a gymerodd ran fel gwirfoddolwr yn dweud fod y
gweithgaredd gymaint o fudd i’r gwirfoddolwr ag yw i’r rhai y maent yn
eu helpu. Roedd hyn yn amlwg ym mis Mehefin pan gychwynnwyd cynghrair
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Hugh James gyda’r sector, gan
ddefnyddio ein timau i gynorthwyo cleientiaid tai cymdeithasol gyda
phrosiectau yn y gymuned a gafodd eu gohirio oherwydd y pandemig.
Bu Linc Cymru yn gweithio gyda ni i ddatblygu prosiect garddio
cymunedol ar Barrack Lane yng nghanol y dref. Gan wisgo ein menig
garddio, cawsom sgwrs hyfryd yn yr awyr agored tra’n gweithio ar y
cynllun a chawsom hyd yn oed gyfle i ddefnyddio ein sgiliau negodi
gyda’r tenantiaid masnachol gerllaw i helpu gofalu am yr arddangosiadau
blodau newydd. Gallwch weld fideo o’r hyn y buom yn ei wneud yma.
Gyda’n 700 o staff yn awyddus i gynorthwyo ar brosiectau tebyg,
byddem yn falch iawn i glywed gan aelodau gyda chyfleoedd tebyg. Os
hoffech weithio gyda ni i adeiladu’r bartneriaeth hon gyda’r sector neu
os oes gennych gynllun cymunedol sydd angen gwirfoddolwyr, cysylltwch â Emma.Poole@hughjames.com os gwelwch yn dda.