CHC yn llofnodi datganiad Cymru o undod a chydberthynas

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi ymuno â mwy na 100 o sefydliadau eraill ac unigolion o bob rhan o’r wlad i lofnodi datganiad Cymru o undod a chydberthynas.
Cyhoeddwyd y datganiad, a ysgrifennwyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn dilyn yr ymosodiad treisgar yn Southport yr wythnos ddiwethaf a’r terfysgoedd hiliol yn erbyn mewnfudwyr a ddilynodd wedyn ar draws y Deyrnas Unedig.
Darllenwch y datganiad yn llawn yma.
Os ydych yn gwsmer neu’n denant cymdeithas tai, neu’n gweithio o fewn ein sector, rydym yn eich annog i siarad gyda’ch cymdeithas am unrhyw gymorth y gallwch fod ei angen ar hyn o bryd. Rydyn ni a’n haelodau yn sefyll gyda chi.
Mae Tai Pawb hefyd wedi cyhoeddi cyngor ar sut y gall sefydliadau ac unigolion gefnogi cydweithwyr a thenantiaid – ar gael yma.