Caru Cartrefi: ein galwadau olaf ar gyfer etholiadau 2021 Senedd Cymru
Roedd amheuon yn dal i fod os cynhelid etholiadau Senedd 2021 ym mis Mai pan lansiwyd ein maniffesto Cartref yn ôl ym mis Tachwedd.
Rydym wedi dysgu drwy gydol y pandemig y gall pethau newid yn gyflym
iawn. Fodd bynnag, mae ein maniffesto wedi aros yn gadarn er y tirlun
gwleidyddol simsan. Gyda chadarnhad y cynhelir yr etholiad ar 6 Mai,
rydym yn bwrw golwg ar ein galwadau i Lywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad
i greu Cymru well i bawb.
Buddsoddi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Mae’r etholiad hwn ynglŷn â diffinio llwybr Cymru allan o’r heriau y
mae’r pandemig wedi eu hachosi i bob un ohonom. Bydd buddsoddiad yn
ganolog i hynny.
Dylid rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiad cyfalaf a’i fesur yn ôl yr
effaith y gall ei gael ar genedlaethau’r dyfodol i gefnogi symud i
economi sydd wedi ei seilio ar egwyddorion llesiant. Byddai rhaglen
fuddsoddi o £1.5bn dros 5 mlynedd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 20,000 o
gartrefi cymdeithasol newydd effeithiol o ran ynni yn cefnogi dros
7,000 o swyddi a 3,000 o gyfleoedd hyfforddi ledled Cymru ac yn ysgogi
bron £2bn o allbwn economaidd.
Er mwyn cyrraedd targedau sero-net Llywodraeth Cymru, bydd angen
pecyn ysgogiad £4bn dros 10 mlynedd wedi’i gefnogi gan gyfuniad o gyllid
cyhoeddus a phreifat. Mae cymdeithasau tai yn uchelgeisiol i ôl-osod eu
stoc presennol fel y gall eu holl denantiaid fanteisio o gartrefi
cynnes carbon isel sy’n fforddiadwy eu rhedeg.
Mae hefyd yn hanfodol symud mantol gwariant ymaith o weithredu
argyfwng i ataliaeth hirdymor. Dim ond 15-20% o iechyd a llesiant cenedl
sy’n dibynnu ar wasanaethau gofal iechyd ac eto caiff dros 50% o
gyllideb Llywodraeth Cymru ei dyrannu i wariant iechyd, gyda 74% o’r
gwariant hwnnw yn canolbwyntio ar wasanaethau aciwt.
Dros dymor nesaf y Senedd, er mwyn cefnogi llwybr cynaliadwy tuag at
ffyniant i bawb yng Nghymru, galwn ar Lywodraeth Cymru i ddynodi’r
cronfeydd pontio angenrheidiol i gefnogi’r newid i ddull gweithredu mwy
ataliol. Fel enghraifft, dylai hyn gynnwys cronfa bontio 3 blynedd i
drawsnewid y ffordd yr ydym yn lliniaru digartrefedd yn seiliedig ar
ailgartrefu cyflym a Tai yn Gyntaf.
Gweithredu ar y cyd ar heriau cyffredin
Digartrefedd yw symptom mwyaf trychinebus yr argyfwng cyfun mewn
iechyd cyhoeddus a thai, ac mae’n galw am ymdrech gadarn a chydlynol ar
draws y sector cyhoeddus a’u partneriaid. Gallai mwy o gydlynu gyda
phartneriaid cymunedol, tebyg i gymdeithasau tai, roi cymorth ar gam
llawer cynharach, gan atal pethau rhag gwaethygu i bwynt argyfwng, gan
gadw pobl yn eu cartrefi a’u cymunedau cyhyd ag sydd modd.
Yn hynny o beth, mae angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i
gamau i bontio’r bwlch gweithredu rhwng strategaeth a chyflenwi lefel
uchel fel y gall partneriaid a gwasanaethau cyhoeddus weithio’n well
gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau a rhannu gwybodaeth i wella
penderfynion ehangach iechyd.
Lleoedd mae pobl eisiau byw ynddynt
Mae angen i ni gydnabod fod gan yr argyfwng tai oblygiadau
pellgyrhaeddol ar gyfer pobl a lleoedd. Gall achosi oedi cyn rhyddhau
cleifion o ysbyty, gall atal pobl rhag gweithio neu ddysgu gartref
oherwydd diffyg cysylltiad rhyngrwyd neu ddiffyg gofod addas. Gall
waethygu tlodi drwy filiau ynni arswydus o uchel.
Gwelsom ganol ein trefi yn gynyddol yn troi’n wag a llwm oherwydd y
pandemig. Mae pawb ohonom yn haeddu byw mewn lle sy’n edrych yn
groesawgar ac yn gweini diben i alluogi cymuned ffyniannus. Dylai
Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad ddatblygu strategaeth gynhwysfawr
a galluogol ar gyfer canol trefi gyda lle canolog i gartrefi, gan
rymuso cymunedau lleol i gymryd penderfyniadau am sut i uchafu’r cyfle
hwn. Dylai hyn gynnwys mwy o hyblygrwydd o fewn y broses cynllunio i
alluogi mannau lleol i ymateb yn chwim i’r newid mewn galw ac arferion
defnyddwyr ac annog arbrofi yn y defnydd o adeiladau gwag.
Ar ôl aros adref fwy nag erioed dros y flwyddyn ddiwethaf, mae
cysylltiad cyflym a dibynadwy i’r rhyngrwyd yn hollol hanfodol. Ar adeg
pan mae cyrchu gwasanaethau iechyd, siarad gyda theulu a ffrindiau,
gweithio neu gael mynediad i addysg yn digwydd yn bennaf ar-lein, dylai
Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad roi mesurau ar waith i ddod ag
allgau digidol i ben, yn cynnwys uwchraddio gofynion i bob cartref
newydd gynnwys cysylltedd digidol fel safonol.
Yn olaf, mae’n her gynyddol i’r sector gofal cymdeithasol ddarparu
gofal ansawdd uchel sy’n canoli ar y person i gefnogi pobl i barhau’n
annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae angen i’r sector gael ei yrru
gan werth, yn hytrach na chost, ac mae angen iddi fedru cael yr adnoddau
i sicrhau gwell deilliannau ar gyfer defnyddwyr, y gweithlu a gwerth
cymdeithasol i gymunedau. Dyna pam yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn
dilyn yr etholiad yn cynyddu cyllid gofal cymdeithasol ar gyfer
awdurdodau lleol, yn cynnwys cydnabod gwaith pwysig gweithwyr gofal drwy
dalu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.
Gydag ychydig dan fis i fynd tan y diwrnod pleidleisio, mae’r
pleidiau gwleidyddol yn dechrau cyhoeddi eu maniffestos. er ein bod yn
dal i fod yng nghanol pandemig, bydd pob plaid eisiau dangos eu syniadau
tymor hirach yn ogystal â’u cynlluniau adfer yn dilyn Covid. Mae’r
etholiad hwn yn rhoi cyfle i edrych o’r newydd ar hen heriau, i godi
uchelgais ac i ddod yn ôl yn gryfach. Gobeithiwn weld cymhelliant
gwirioneddol dros newid.
Cafodd maniffesto ‘Cartref’ CHC ei ddatblygu ar y cyd gyda bron
100 o sefydliadau, yn cynnwys cymdeithasau tai o’r sector cyhoeddus
sector preifat a’r trydydd sector ledled Cymru.