Jump to content

03 Chwefror 2021

Arloesedd: ffordd o wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?

Arloesedd: ffordd o wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?

Sharon Crockett yw Cyfarwyddwr Arloesedd a Diwylliant Cartrefi Melin, ac mae’n rhan o Weithgor Arloesedd a drefnwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru fydd yn dynodi’r heriau sy’n wynebu pobl a chymunedau yng Nghymru, ac yn edrych ar y syniadau sydd gan y sector tai i fynd i’r afael â’r heriau hynny.

“Pan ofynnodd fy Mhrif Weithredwr i ddechrau os hoffwn wneud cais i fod yn rhan o’r grŵp llywio arloesedd, fy ymateb cyntaf oedd nad oeddwn yn siŵr os mai fi oedd y person cywir, beth allwn i ei roi? Fodd bynnag, y mwyaf yr edrychais iddo a darganfod beth oedd eu bwriadau, y mwyaf cyffrous oeddwn am y posibilrwydd o fod yn rhan o rywbeth a fedrai o bosibl newid y dyfodol ar gyfer pobl o fewn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddyn nhw.

“Hanfod fy rôl o fewn Melin yw cefnogi’r busnes a’n staff i fod y gorau y gallant fod ac i hybu newid a chefnogi diwylliant ledled y sefydliad, felly roedd hwn yn ymddangos y prosiect perffaith i mi gymryd rhan ynddo. Roeddwn yn ei weld fel ffordd o wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, a dyna’r hyn sydd wedi bod y symbyliad mwyaf i mi yn fy ngyrfa.

“Yn amlwg, dynodi’r datganiad problem oedd ble’r oedd y gwaith caled yn dechrau. Sut yn y byd mae dynodi her i Gymru gyfan, y gallwn ni fel cymdeithasau tai gael effaith yn ei newid. Daeth y grŵp llywio gylch llawn wrth ddynodi’r maes roeddem eisiau canolbwyntio arno, ac fel y gallwch ddychmygu, fe wnaeth ein barn a’n penderfyniadau newid sawl gwaith yn ystod y broses. Po fwyaf yr oeddem yn ceisio culhau’r ffocws, y mwyaf yr oedd yn cyflwyno heriau newydd a phroblemau oedd angen eu datrys.

“Gyda help arbenigwyr medrus iawn mewn arloesedd, fe wnaethom yn y diwedd gwtogi’r her i’r ffocws presennol o “Sut fedrem ni atal iechyd meddwl pobl ifanc 14-18 oed rhag gwaethygu?”

“Mae’r problemau iechyd meddwl a welwn heddiw ymysg ein pobl ifanc yn dorcalonnus a phryderus ac i ryw raddau, o fewn ein bywydau bob dydd, rydym yn teimlo na allwn wneud dim i wella’r sefyllfa. Mae’n amlwg y bydd angen cydlynu unrhyw ddatrysiad posibl ar draws gwahanol sectorau, fodd bynnag mae cymdeithasau tai yn parhau i fod â chysylltiad agos iawn gyda’r unigolion a hefyd y cymunedau y gweithiwn gyda nhw, sy’n rhoi cyfle i ni gael effaith go iawn. Ond wrth gwrs, fedren ni byth wneud hyn ar ein pennau ein hunain.

“Mae hyn nawr yn gyfle go iawn i gael amrywiaeth o syniadau o bob rhan o’r sector ac i gysylltu gyda sefydliadau partner a chymunedau i lunio datrysiadau hyfyw i’n her. Bydd yn hanfodol ein bod yn cael cymaint o adborth ac yn ysgogi cynifer o syniadau ag sydd modd oherwydd, wrth gwrs, nid yw’r holl atebion gennym, fel arall byddem yn gwneud y cyfan yn barod. Mae hyn hefyd yn gyfle gwych i gysylltu gyda’r bobl ifanc y bydd ein gwaith yn effeithio arnyn nhw i’w helpu i ddynodi datrysiadau a fydd yn y pen draw yn eu helpu nhw ac eraill o’u hamgylch.

“Gall pawb ohonom siarad am yr heriau sy’n wynebu pobl yn ein cymunedau a gallwn eistedd yn ôl a dal ati i siarad heb gymryd unrhyw gamau pendant. Hyd yn oed nawr, er y cafodd yr her ei hadnabod, mae’n dal i godi ychydig o ofn arnaf. Ble yn y byd ydyn ni’n dechrau mynd i’r afael â’r broblem? Mae’n teimlo’n enfawr! Ond ochr arall y geiniog yw ei bod yn anhygoel o gyffrous ac yn gyfle go iawn i newid bywydau cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’n fraint i fi fod yn rhan o ganfod a phrofi datrysiad i’r broblem gynyddol yma ac os gallaf chwarae rhan fach mewn gwneud gwahaniaeth mawr, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu wneud hyn yn llwyddiant.”

Gallwch fewnbynnu eich syniadau a datrysiadau i’r her iechyd meddwl a ddynodwyd gan y Gweithgor yma.

Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Peilot Arloesedd ar gael yma.