Jump to content

Ymgynghorwyr iON

Fel ymgynghoriaeth SHEQ annibynnol a diduedd, rydym yn hyrwyddo mannau diogel a chynaliadwy lle mae pobl a’r amgylchedd yn ffynnu. Drwy gymorth cydymffurfiaeth arbenigol a hyfforddiant pwrpasol, rhoddwn eglurdeb a hyder i feithrin diwylliant diogelwch rhagweithiol. Mae ein gwerthoedd moesegol a chynaliadwy yn ein llywio i weithio gydag uniondeb, gan hybu newid cadarnhaol yn y cymunedau a wasanaethwn a’r amgylchedd a rannwn.

Services

  • Gwasanaethau Sicrwydd Asbestos

  • Cyrsiau Hyfforddi gydag Achrediad ar Asbestos

  • Gwasanaethau Archwilio ac Ymgynghori Iechyd a Diogelwch

  • Gwasanaethau Cynghori a Phrif Ddylunydd CDM

  • Cefnogaeth Systemau Rheoli ISO (ISO 9001, ISO 14001, ISO 45001)

Buddion

Mae iON Consultants yn arwain fforymau technegol ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru sy’n dod â rheolwyr asedau o bob rhan o gymuned tai cymdeithasol Cymru ynghyd. Mae’r fforwm yn ymateb yn uniongyrchol i adborth gan aelodau CHC gan alw am ofod neilltuol i rannu gwybodaeth weithredol a chydweithio ar arferion gorau mewn rheoli asedau. Datblygwyd pob agwedd o’r fforwm i helpu gweithwyr proffesiynol y sector i rannu arbenigedd, codi safonau a hybu arloesedd yng Nghymru.

Bydd aelodau CHC yn cael mynediad i dudalen gwefan arbennig Hyb Tai yn cynnig ystod o adnoddau technegol, grŵp WhatsApp i alluogi rhannu gwybodaeth effeithiol fel mae’n digwydd ac agenda dan arweiniad aelodau a gaiff eu lunio gan y tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant ac wedi ei seilio ar arbenigedd polisi CHC. Gwahoddir aelodau i ddwy uwch-gynhadledd arbennig bob blwyddyn i adolygu prosiectau cyfredol, edrych ar y technolegau ac arloeseddau diweddaraf a meithrin perthynas ystyrlon ymysg cymheiriaid.

Arweinydd y fforwm yw Julian Ransom o iON, sydd â dros 35 mlynedd o brofiad fel syrfëwr adeiladu siartredig a mwy na 15 mlynedd o arbenigedd mewn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth. Wrth siarad am bartneriaeth iON gyda CHC dywedodd, “Rydym wrth ein bod i gydweithio gyda Cartrefi Cymunedol Cymru i gyflwyno fforwm ddeinamig fydd yn uno gweithwyr proffesiynol o bob rhan o rwydwaith tai cymdeithasol Cymru. Edrychaf ymlaen at ddatblygu strategaethau gyda’n gilydd sy’n trin heriau’r sector ac yn cryfhau’r gefnogaeth a roddir i breswylwyr.”

Am Ymgynghorwyr iON

Daw Ymgynghorwyr iON â dull gweithredu ffres a phragmatig i’r tirlun iechyd a diogelwch. Rydym yn llywio cwsmeriaid drwy fyd cydymffurfiaeth, a all yn aml fod yn gymhleth, gan eu hannog i fanteisio ar ein harbenigedd.

Mae gennym bresenoldeb cryf mewn tai cymdeithasol ac yn deall heriau uwchraddio amgylchedd adeiledig sy’n heneiddio tra’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch ac amddiffyn bywydau. Caiff ein gwasanaethau eu llunio o amgylch anghenion penodol y sector i sicrhau eu bod yn berthnasol, yn rhoi enilliad ar fuddsoddiad a sicrwydd rheoleiddiol.

Mae ein datrysiadau pwrpasol ar asbestos a’n cymorth estynedig ar iechyd a diogelwch yn galluogi awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a gweithluoedd uniongyrchol i gryfhau cydymffurfiaeth gyda mwy o effeithiolrwydd, fforddiadwyedd a hyder. Drwy optimeiddio rheolaeth cadwyn gyflenwi, rydym yn sicrhau cyflenwi gwaith ansawdd uchel tra’n gostwng costau, gan hybu gwelliannau cynaliadwy ar draws y sector.

Rydym yn gweithredu gydag uniondeb ac yn cynnig cyngor diduedd, gan ostwng biwrocratiaeth a dileu cymhlethdod i roi eglurdeb, hyder a thawelwch meddwl i gwsmeriaid. Os ydych angen partner sy’n deall gofynion byd go iawn cydymffurfiaeth, mae Ymgynghorwyr iON yma i’ch helpu.

Cyswllt

0845 8623840

www.ion-consultants.co.uk

Image showing a red logo against a white background that reads 'iON Consultants'