Jump to content

Craffu deddfwriaethol yng Nghymru – yr hyn y gwnaethom ei ddysgu o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a’r hyn y gallwn ei wneud nesaf

Mehefin 21, 2024 @ 11:00yb
Webinar 1hr Zoom

Ymunwch â Rhea Stevens, Pennaeth Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC), Caroline Stubbs, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Grŵp Pobl a SHLA Cymru, i gael sgwrs am sut y gall CCC a SHLA Cymru gydweithio’n effeithiol yn ystod hynt a gweithredu deddfwriaeth newydd.

Cadeirir y weminar gan Sarah Salmon o Cornerstone Barristers, ar ran SHLA Cymru, a bydd yn cynnwys hynt a gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), y gwersi y gallwn eu dysgu a sut y gallem gydweithio i baratoi ar gyfer deddfwriaeth newydd ar y gorwel, yn arbennig ar ddiogelwch adeiladau a digartrefedd, yn nhymor hwn y Senedd.